Byddwch yn cwrdd â phobl o bob cymuned y gallech feddwl amdanynt yma. Bydd eich cyd-fyfyrwyr yn ddiddorol, yn greadigol ac yn eich herio i feddwl. Bydd ganddynt safbwyntiau gwahanol i chi a gallent herio sut yr ydych yn gweld y byd. Trwy gyfrwng y profiadau y byddwch yn eu rhannu fel rhan o fywyd prifysgol, rydym yn ceisio sicrhau y gall pob myfyriwr ymhyfrydu yn y gymuned amrywiol hon a dysgu cymaint â phosibl yn ystod eu hamser ym Mangor.
Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gynnal cymuned gyfartal a chynhwysol ym Mangor ac yn ogystal â bod â threfnau cryf ar waith i fynd i'r afael â phob math o anghydraddoldeb megis aflonyddu a thrais ar sail rhywedd, rydym yn cyfleu ein disgwyliadau yn agored i bob myfyriwr ar ddechrau eu siwrnai academaidd. Mae ein canllawiau ymddygiad disgwyliedig wedi'u nodi yn y  a gall myfyrwyr dderbyn cefnogaeth a chyngor trwy gyfrwng y llwyfan 'Rhannu a Chefnogi'.Ìý
Mae aelod ymroddedig o staff, y Rheolwr Gwaith Achos Myfyrwyr, yn arwain gwaith y brifysgol yn y maes hwn ac yn cynnig cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr a allai fod wedi profi effeithiau unrhyw fath o ymddygiad sy’n eu heithrio.Ìý
Mae ein gwefan Cymuned Gynhwysol yn eich cyfeirio at gefnogaeth a chyngor ac yn cynnig gwybodaeth bellach am sut rydym yn cynnal ac yn gwella cymuned gynhwysol Bangor gan gynnwys gwybodaeth ar gyfer cymunedau penodol o fyfyrwyr.Ìý
Croeso i'n cymuned a chroeso adref.