Pedwar yn cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn!
Testun llawenydd mawr oedd clywed fod Hugh, Emma, Richard a Daniela, a fynychodd gyrsiau Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor, wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni. Mae Emma hefyd yn gweithio yn y Brifysgol yn Y Ganolfan Rheolaeth.
Meddai Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr, Dysgu Cymraeg Gogledd-Orllewin, “Mae’n wych gweld y dysgwyr dawnus ac ymroddgar yma’n cael cydnabyddiaeth haeddiannol am y ffordd mae nhw wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg i safon uchel iawn. Mae gan bob un ei stori unigryw ei hun, ond yr hyn sy’n gyffredin i bawb ydy bod dysgu’r Gymraeg wedi newid eu bywydau er gwell.â€
Meddai Elwyn Hughes, Cadeirydd Pwyllgor Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, “Roedd yn hynod braf croesawu pawb draw atom i Langefni dros y penwythnos ar gyfer y rownd gynderfynol, a chawsom ein plesio’n arw gyda safon pob un o’r cystadleuwyr eleni.
“Mae’n biti nad oes modd i bawb gyrraedd y rownd derfynol, gan fod y safon mor uchel, a phawb yn ysbrydoliaeth, nid yn unig i ddysgwyr eraill ond i Gymry Cymraeg hefyd. Mae’n brofiad arbennig cael cyfarfod a siarad gyda’r rheiny sydd wedi cystadlu a chlywed am sut mae dysgu Cymraeg wedi siapio a newid eu bywyd. Rydym yn llongyfarch pob un ymgeisydd yn wresog, ac yn diolch iddyn nhw, nid yn unig am gystadlu ond am eu hymroddiad i’r iaith a’n diwylliant. Dymuniadau da i bob un ohonyn nhw yn y dyfodol.â€
Y beirniaid eleni yw Jenny Pye, R Alun Charles a Nia Roberts, ac wrth gyhoeddi’r rhestr fer yn Oriel Ynys Môn dywedodd Jenny Pye, “Rydym i gyd wedi cael modd i fyw yn cyfarfod yr holl ymgeiswyr ar gyfer y gystadleuaeth eleni. Mae’r safon wedi bod yn uchel, ac mae straeon pawb wedi bod yn hynod o ddiddorol. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi ymgeisio, ac rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod Emma, Dani, Hugh a Richard eto yn y rownd derfynol yn ystod wythnos yr Eisteddfod.â€
O ardal Sir Gaer y daw Hugh Brightwell, ac mae’n byw yn Ellesmere Port, sy’n agos iawn at y ffin gyda Chymru. Aeth Hugh ati i ddysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau ac ar y we, gan fynychu mwy nag un dosbarth bob wythnos. Defnyddiodd wefan Memrise er mwyn datblygu’i eirfa, a bu’n mynychu nifer fawr o gyrsiau fel ysgolion haf ac ysgolion undydd er mwyn ei helpu i wella’i sgiliau. Meddai Hugh, “Pan ôn i'n aros am fy nghyfweliad rôn i'n nerfus iawn achos roedd safon y Gymraeg fy nghydymgeiswyr mor uwch. Roedd sioc enfawr i mi glywed fy enw yn ystod y cyhoeddiad, dôn i ddim yn credu beth ôn i'n clywed. Dw i'n wrth fy modd i gael y fraint i gyrraedd y pedwar olaf i fynd ymlaen at rownd derfynol Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.â€
Ganwyd Emma Chappell yng Nghaergrawnt ac fe’i magwyd yn Royston, Hertfordshire, ond erbyn hyn, mae’n byw ym mhentref Deiniolen ar lethrau’r Wyddfa yma yng Nghymru. Mae Emma’n defnyddio Cymraeg yn ei gwaith ym Mhrifysgol Bangor bob dydd, gyda chwsmeriaid, myfyrwyr, staff a chontractwyr, ac mae hefyd yn rhan o’r grŵp gweithredu’r Gymraeg ac wedi bod yn helpu rhai o’r staff gyda’u Cymraeg. Meddai Emma, “Mi ges i sioc pan ges i fy enwi fel un o’r pedwar yn y rownd derfynol, roedd safon y dysgwyr eraill yn uchel iawn. Gobeithio rydw i'n gallu ysbrydoli pobl i ddysgu Cymraeg a byw eu bywydau yn yr iaith hefyd. Mi faswn i'n hoffi dweud diolch yn fawr i'r tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion a Chanolfan Bedwyr am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd.â€
Mae Richard Furniss yn byw yn Llangefni gyda’i wraig, Delyth ac yn dysgu Cymraeg ers 2005. Dysgodd drwy fynychu gwersi gyda’r nos ym Mangor a Llangefni, drwy Prifysgol Bangor, a dywed ei fod hefyd wedi cael llawer o gymorth gan ei wraig a’i deulu yng nghyfraith wrth iddo ddysgu’r iaith. Meddai Richard, “Roedd o'n anrhydded mawr i gael y cyfle i gymryd rhan yn yr rownd gyn-derfynol i fod yn onest ac yn braf i weld gymaint o bobl yn cystadlu. Hefyd, roedd y safon mor uchel, roedd o'n ysbrydoledig i weld pa mor dda oedd pawb arall efo defnyddio eu Cymraeg. Mae'n peth ffantastig i gael pedwar ohonon ni efo cysylltiad efo'r Brifysgol yn y rownd gyn-derfynol a mae'n ddangos pa mor dda ydy'r tîm yn yr adran Dysgu Cymraeg ym Mangor. Rôn i'n nerfus iawn cyn yr cyfweliad ac eto cyn yr cyhoeddiad. Wedyn, rôn i'n mewn sioc pan darllenodd allan y feirniad fy enw. Rwan, dw i'n edrych ymlaen at y rownd derfynol ac i weld y tri arall sy wedi cyrraed y diwrnod mawr!â€
O’r Almaen y daw Daniela Schlick yn wreiddiol, ond disgynnodd mewn cariad gyda Chymru pan ddaeth draw ar wyliau. Cymaint felly, nes iddi ddychwelyd i’r Almaen a mynd ati i ddysgu Cymraeg. Yna, ddwy flynedd yn ôl, pan oedd hi’n teimlo’n ddigon hyderus, gadawodd ei chartref a’i swydd a symud draw i Borthaethwy. Yn syth, cofrestrodd mewn dosbarth Cymraeg, ac erbyn hyn mae wedi pasio’r cwrs Canolradd ac yn gobeithio dilyn y cwrs Uwch. Meddai Daniela, “Rydw i'n falch iawn o fod un o'r pedwar cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn, yn enwedig gan fod 11 o ddysgwyr - 11 o siaradwyr Cymraeg andros o dda yn cystadlu. Caethon ni gyfweliad gan y beirniaid ac wedyn gan Nia Parry ar gyfer y rhaglen "Dal Ati" - dau brofiad heriol a chyffrous. Pan es i i Oriel Môn i gystadlu, doedd gen i ddim byd i'w golli. Rôn i wedi enill yn barod, gan lwyddo siarad Cymraeg yn ddigon dda i gallu gystadlu a gan gael fy enwebu gan ffrind da iawn sydd yn credu yndda i. Nad oes gen i ddim byd i'w golli o hyd. A dweud y gwir mae'r 4 ohonon ni wedi enill beth bynnag. Felly i ffwrdd a ni i Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ac i'r rownd derfynol!â€
Bydd yr enillydd yn derbyn tlws arbennig, yn rhoddedig gan Rhian a Harri Pritchard, Cemaes, a £300 (Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor), a bydd y tri arall sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tlysau, sydd hefyd yn rhoddedig gan Rhian a Harri Pritchard, Cemaes, a £100 yr un (Teulu’r Wern, Talwrn). Bydd y rheiny sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr. Bydd yr enillydd hefyd yn cael ei g/wahodd i fod yn aelod o’r Orsedd.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2017