Wythnos a Chinio Busnes Gwynedd 2019
Bydd prif ddigwyddiad busnes Gwynedd sy’n hyrwyddo ac yn dathlu llwyddiannau busnesau lleol yn ogystal â chynnig cyfle gwych i gwmnïau ddod at ei gilydd i rwydweithio a rhannu syniadau yn cael ei gynnal rhwng 20 a 24 Mai. Mae’n argoeli i fod yn uchafbwynt calendr busnes y sir eto eleni.
Yn ystod yr wythnos, bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws y sir, yn cynnwys Bangor, Dolgellau, Caernarfon, Botwnnog a Porthmadog. Bydd croeso i fusnesau newydd yn ogystal â busnesau sefydledig fynychu’r digwyddiadau hyn.
Bydd Digwyddiad Brecwast Busnes sy’n lansio’r Wythnos yn cael ei gynnal yng ngorsaf newydd Rheilffyrdd Eryri yng Nghaernarfon ar ddydd Llun, 20 Mai lle bydd cyfle i glywed gan siaradwyr gwadd a rhwydweithio gyda chynrychiolwyr o’r sector preifat a chyhoeddus. Uchafbwynt yr wythnos fydd Cinio Gala Wythnos Busnes Gwynedd fydd yn cael ei gynnal dydd Iau, 23 Mai yn Y Ganolfan Rheolaeth, Bangor. Bydd y digwyddiad yn cynnwys seremoni gwobrau busnes ac yn gyfle i arweinyddion busnes o bob cwr o Wynedd gyfarfod i rannu syniadau a phrofiadau.
Yn ystod y Cinio, bydd gwobrau busnes yn cael eu cyflwyno i Berson Busnes y Flwyddyn, Busnes Bach y Flwyddyn, Busnes Twristiaeth y Flwyddyn, Gwobr Arloesi Busnes ac Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn.
Gwelwch restr o ddigwyddiadau
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2019