Cydnabyddiaeth i fardd sy’n trydar
Mae llyfr arloesol o drydar cynganeddol o waith Dr Llion Jones wedi’i osod ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2013.
Mae’r gyfrol, Trydar mewn Trawiadau (Cyhoeddiadau Barddas), wedi’i disgrifio fel y casgliad cyntaf o drydar yn y Gymraeg, ac un o’r casgliadau cyntaf o drydargerddi mewn unrhyw iaith.
Ers dros dair blynedd, mae Llion Jones, Cyfarwyddwr a phrifardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol 2000, wedi bod yn gwneud defnydd creadigol o gyfrwng poblogaidd Twitter i drydar mewn cynghanedd yn unig, gan ddefnyddio’r 140 nod cyfrifiadurol y mae Twitter yn eu caniatáu i roi cipolwg ar y byd trwy gyfrwng cwpledi ac englynion.
Meddai Llion, “Fy mwriad wrth gyhoeddi’r gyfrol oedd ceisio ennyn diddordeb mewn cynghanedd a barddoniaeth yn ogystal ag annog mwy o Gymry Cymraeg i wneud defnydd creadigol o’r cyfryngau newydd. Mae’r ymateb i’r gyfrol wedi bod tu hwnt i bob disgwyl ac mae’r gydnabyddiaeth gan banel beirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn goron ar y cyfan.â€
Cyhoeddir enillwyr categori Llyfr y Flwyddyn 2013 - barddoniaeth, ffeithiol a ffuglen - cyn enwi Llyfr y Flwyddyn – teitl Cymraeg a Saesneg - mewn seremoni yng Nghaerdydd ar 18 Gorffennaf.
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan Llenyddiaeth Cymru ac mae manylion pellach amdani i’w cael ar
Gallwch ddarllen rhagor am Trydar mewn Trawiadau ar wefan neu ar
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2013