Gwasanaeth Cyswllt ag Ysgolion
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i ysgolion a cholegau. Amcan hyn yw cynyddu ymwybyddiaeth o Addysg Uwch ac annog pobl ifanc i ystyried cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Mae’r gweithgareddau hyn yn amrywio o gyngor cyn ymgeisio a sgyrsiau cyfarwyddo i sesiynau rhyngweithiol sy’n anelu at hybu diddordeb a dyheadau disgyblion iau.
Dyma rai o’r gweithgareddau y gallai eich ysgol fod â diddordeb ynddynt:
- Ar gyfer Blynyddoedd 12 a 13
- Ar gyfer Disgyblion Iau
- Ymweliadau Preswyl
- Mentora gan Fyfyrwyr
- Hyfforddi Athrawon
Ar gyfer Blynyddoedd 12 a 13
Cyngor ac arweiniad cyn-ymgeisio/Sgyrsiau cyswllt ag Ysgolion
Cynigir cyflwyniadau ar baratoi ar gyfer Addysg Uwch gan Swyddogion Cyswllt Ysgolion y Brifysgol. Mae’r pynciau yr ymdrinnir â hwy yn cynnwys Sut i ddewis, Ble i ddewis; Llenwi’r Ffurflen UCAS; Paratoi eich Datganiad Personol; Paratoi ar gyfer cyfweliadau.
I drefnu cyflwyniad a/neu ymweliad llenwch eich ffurflen ar-lein os gwelwch yn dda.
Gweithgareddau dan arweiniad myfyrwyr
Gall myfyrwyr presennol o Fangor ymweld â’ch ysgol i arwain sesiwn holi ac ateb ar fywyd myfyrwyr a sut brofiad yw astudio mewn Prifysgol.
Ymweliadau â’r Brifysgol
Llunnir rhaglen arbennig ar gyfer pob ysgol sydd eisiau dod â grwp o ddisgyblion (neu grwp blwyddyn gyfan) ar ymweliad â Bangor. Mae’r gweithgareddau sydd ar gael yn cynnwys sgyrsiau gan aelodau staff; teithiau tywysedig o amgylch y campws (yn cynnwys llety myfyrwyr a chyfleusterau chwaraeon); ymweliad â/cyflwyniad gan Undeb y Myfyrwyr; gweithdai/cyflwyniadau ar adeiladu tîm, gyrfaoedd i raddedigion, sgiliau astudio a symud ymlaen i Addysg Uwch. Gall ymweliadau fod naill ai’n rhai diwrnod neu’n rhai preswyl.
Ar gyfer Disgyblion Iau
Ymweliadau â’r Brifysgol
Fel rheol, bydd ysgol sydd eisiau dod â grwp o ddisgyblion iau ar ymweliad â’r Brifysgol yn cael cynnig rhaglen eang yn cynnwys, er enghraifft, ymweliad ag adran academaidd, taith dywysedig o amgylch y campws (yn cynnwys llety myfyrwyr a chyfleusterau chwaraeon), a chyflwyniad cyffredinol i fywyd prifysgol a myfyrwyr.
Manylion Cyswllt
I gael mwy o wybodaeth am unrhyw rai o’r gweithgareddau sydd wedi eu hanelu at naill ai Blwyddyn 12 a 13, neu at ddisgyblion iau, cysylltwch â:
Yr Uned Recriwtio Myfyrwyr
Prifysgol Bangor
LL57 2DG
Ffôn: 01248 388144/382005
Ebost: marchnata@bangor.ac.uk
Ymweliadau Preswyl
Mae Bangor yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer ymweliad preswyl ac mae dwsinau o ysgolion yn dychwelyd yma’n flynyddol ar gyfer gweithgareddau’n amrywio o waith maes ac wythnosau gweithgaredd i raglenni Cynefino i’r Chweched Dosbarth a Cyflwyniad i AU.
Mae’r llety sydd ar gael naill ai’n llety safonol mewn neuaddau preswyl traddodiadol neu’n ystafelloedd en-suite yn y neuaddau mwy newydd. O ran arlwyo cynigir prydau bwyd mewn caffeteria a chinio pecyn fel bo’r angen.
Mae pecyn gwybodaeth sy’n rhoi mwy o fanylion am y cyfleusterau a’r gwasanaethau preswyl sydd ar gael i ysgolion i’w gael o'r Swyddfa Gynadleddau. I gael copi o’r pecyn neu i drafod ymweliad preswyl posibl, cysylltwch â'r Swyddfa Gynadleddau os gwelwch yn dda:
Ffôn.: 01248 388088
Ebost - aros@bangor.ac.uk 
Gwefan - www.bangor.ac.uk/commercial-services/conferencing.php.cy
Cefnogaeth i Ysgolion ag Athrawon
Mae’r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol ym Mhrifysgol Bangor yn darparu hyfforddiant cychwynnol i athrawon (BEd, BSc yn arwain at Statws Athro Cymwysiedig (QTS), a chyrsiau TAR) i rai sydd eisiau gyrfa mewn addysg, yn ogystal â chyrsiau datblygiad proffesiynol cyson i athrawon. Dyma’r manylion:
Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon (ITET)
Profiad Ysgol i athrawon dan hyfforddiant ar y cyrsiau canlynol:
- TAR Uwchradd
- BSc Uwchradd Dylunio a Thechnoleg yn arwain at QTS
- TAR Cynradd
- BEd Cynradd
Cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Cyson i athrawon
- MEd/MA (rhan-amser)
- Tystysgrif Astudiaethau Proffesiynol Pellach (CFPS)
- Mentora o dan Brojectau Datblygiad Proffesiynol Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
- Ymgynghori a hyfforddiant i brifathrawon presennol a rhai sy’n anelu at fod yn brifathrawon
I gael gwybodaeth am unrhyw rai o’r uchod, cysylltwch â:
Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol
Prifysgol Bangor
Bangor
Safle’r Normal
Bangor
LL57 2PX
Ffôn: 01248 383082/351151
Gwefan: www.bangor.ac.uk/addysg