¶º±ÆÖ±²¥

Fy ngwlad:

Pam Dewis Bangor?

#2 yng Nghymru - ar sail adolygiadau ein myfyrwyr!

Mae gwefan Student Crowd wedi pori drwy filoedd o adolygiadau ac wedi gosod Prifysgol Bangor yn #2 o ran Prifysgolion Cymru 2023.

Ymysg y 20 uchaf am Foddhad Myfyrwyr

Rydym yn cael ein gosod yn gyson mewn safle uchel am foddhad myfyrwyr ac ar hyn o bryd rydym yn yr 20 uchaf yn y DU ac yn ail yng Nghymru (Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2022).

Clybiau a Chymdeithasau

Cewch barhau â hobi neu chwaraeon neu cael blas ar rywbeth newydd - mae ystod eang o Glybiau a Chymdeithasau i ddewis o'u plith ym Mangor! 

Myfyriwr yn ysgrifennu Caru Bangor yn y tywod ar y traeth yn ystod Wythnos Groeso

RHWNG Y MYNYDDOEDD A'R MÔR Lleoliad Eithriadol

Bangor a'r ardal

Mae Bangor wedi ei lleoli ar arfordir gogledd Cymru. Er ein bod wedi amgylchynu â natur, mae'n hawdd ein cyrraedd ar y trên neu yn y car.

Campws Wrecsam

Bydd ein myfyrwyr Radiograffeg wedi eu lleoli yn ein campws yn Wrecsam.

Cymorth i fyfyrwyr

Rydym yma i'ch helpu trwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr.

Cymorth Anabledd

Gall ein tîm o Gynghorwyr Anabledd gynnig cyngor i chi cyn i chi gyrraedd ac yn ystod eich astudiaethau.

Mwy

Arweinwyr Cyfoed

Mae Arweinwyr Cyfoed yn eich helpu chi i ymgartrefu. Myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn yw Arweinwyr Cyfoed, a fydd yn eich helpu yn ystod yr Wythnos Groeso a thu hwnt.

Mwy

Gwasanaeth Cwnsela

Gallwch drefnu sesiynau cwnsela un i un trwy ein canolfan Gwasanaethau Myfyrwyr.

Mwy

Cymorth Ariannol

Os oes angen cyngor arnoch am gyllid myfyrwyr neu os ydych chi'n profi unrhyw broblemau ariannol, gall ein cynghorwyr helpu.

Mwy

Iechyd a Lles

Mae eich iechyd a'ch lles yn bwysig i ni. Edrychwch ar yr adnoddau sydd ar gael i'n myfyrwyr.

Mwy

Cymuned Gynhwysol

Ein nod yw creu amgylchedd i chi fyw ac astudio ynddo sy'n sicrhau y gallwch chi fod yn chi'ch hun, manteisio ar bob cyfle a chyrraedd eich potensial llawn.

Mwy

Myfyrwyr yn cymdeithasu ger y Neuaddau Preswyl ym Mhentref y Santes Fair.

Wedi gwneud cais yn barod?

Os ydych eisoes wedi gwneud cais i astudio gyda ni, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am yr hyn sy'n digwydd nesaf yn ein Hwb i Ymgeiswyr.

Grŵp o fyfyrwyr yn gwenu yn ystod darlith

Astudio ym Mhrifysgol Bangor

Rydym yn cynnig cannoedd o gyrsiau ar draws y gwyddorau, y celfyddydau, y dyniaethau, busnes a'r gyfraith. Cymerwch gip ar yr hyn y gallech chi ei astudio.

Sgiliau Academaidd a Datblygu

Gallwch fanteisio ar ystod o gefnogaeth i gryfhau'ch sgiliau academaidd. Bydd ein gwasanaethau Cyflogadwyedd yn sicrhau eich bod yn barod i gychwyn ar eich gyrfa ar ôl graddio.

Sgiliau Academaidd a Datblygu

Gallwch fanteisio ar ystod o gefnogaeth i gryfhau'ch sgiliau academaidd. Bydd ein gwasanaethau Cyflogadwyedd yn sicrhau eich bod yn barod i gychwyn ar eich gyrfa ar ôl graddio.

Profiadau gwethfawr tra'n astudio

Gall yr opsiynau i astudio dramor a chael profiad gwaith eich helpu i ehangu eich gorwelion.

Myfyriwr yn defnyddio'r Stiwdio Radio yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau

Profiad Gwaith a Lleoliadau

Daw profiad gwaith yn bwysig iawn i raddedigion pan yn chwilio am gyflogaeth. Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau i ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr, sy’n cynnwys eich cefnogi mewn lleoliadau gwaith ac interniaethau.

Twr Eiffel, paris

Astudio dramor

Beth am gael blas ar ddiwylliant gwahanol fel rhan o'ch gradd? Gall ein rhaglenni astudio dramor fod yn gyfle arbennig i chi gael profiadau gwerthfawr.