Cyflwyno tystysgrifau i ddysgwyr ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae
Derbyniodd nifer o staff y Brifysgol sydd wedi bod yn dilyn cyrsiau dysgu Cymraeg dystysgrifau am ei hymdrechion heddiw, a hynny fel rhan o ddathliadau , sef diwrnod sy’n hybu defnydd o’r Gymraeg drwy annog pawb i ddechrau sgwrs gyda chyfarchiad yn yr iaith.
Mae 12 o aelodau staff wedi llwyddo mewn arholiadau CBAC Cymraeg i Oedolion eleni, yn cynnwys 2 sydd wedi llwyddo ar lefel Uwch, sef Dr Sian Davies, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd a’r Athro Nathan Abrams, Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau.
Yn ogystal â hyn, mae 53 aelod staff wedi ennill Tystysgrif Cymraeg yn y Gweithle ar wahanol lefelau dros y flwyddyn ddiwethaf, sy’n gynnydd sylweddol yn nifer o staff sydd bellach yn gallu defnyddio rhywfaint o Gymraeg yn y gweithle, boed hynny wrth eu gwaith bob dydd neu wrth gymdeithasu â’u cydweithwyr.
Mae dros 150 o aelodau staff yn dilyn cyrsiau Cymraeg o fewn y Brifysgol ac yn y gymuned, gyda chyrsiau ar gael ar gyfer pobl lefel – o ddysgwyr pur i rai sydd wedi meistrioli’r iaith ac yn astudio cymwysterau Lefel A – gan enghreifftio’n glir ymrwymiad y Brifysgol i ddatblygu dwyieithrwydd ymhlith ei staff ac i osod dwyieithrwydd wrth wraidd ei holl weithgareddau. Yn wir, roedd yr ymrwymiad yma i gynnal ethos ddwyieithog yn un o’r elfennau a dderbyniodd glod arbennig gan yr yn ei adroddiad ar y brifysgol a gyhoeddwyd ddechrau’r haf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cyrsiau dysgu Cymraeg ym Mangor ac yn y rhanbarth, ewch i: /cio/index.php.cy.
Fyth ers y Diwrnod Shwmae Su’mae cyntaf yn 2013, mae’r Brifysgol wedi cynnal cyfres o weithgareddau ar gyfer staff a myfyrwyr er mwyn hybu defnydd o’r Gymraeg ar ei safleoedd ac, eleni, mae wythnos gyfan o ddigwyddiadau wedi eu trefnu gan Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB); o sesiynau sgwrsio i deithiau tywys ac o noson meic-agored i gigs gan rai o artistiaid amlycaf Cymru, bydd rhywbeth yn yr arlwy at ddant pawb, waeth be fo’u gallu yn y Gymraeg. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Llywydd UMCB, Gethin Morgan: gethin.morgan@undebbangor.com.
Wrth gyflwyno’r myfyrwyr â’u tystysgrifau, meddai’r Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-gangellor (Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad â’r Gymuned):
“Mae’n bleser cael cyflwyno’r dysgwyr â’u tystysgrifau a’u llongyfarch ar eu llwyddiant. Gyda 12 ohonynt wedi llwyddo yn eu haroliadau Uwch, 53 arall wedi derbyn Tystysgrif Cymraeg yn y Gweithle a’r 150 o aelodau staff sydd wedi ymaelodi ar gyrsiau dysgu Cymraeg eleni, dyma hwb aruthrol i allu’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog ac wrth rannu a hyrwyddo diwylliant unigryw y sefydliad hwn gyda staff a myfyrwyr eraill.â€
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2018