Cynhadledd i roi'r Gymraeg ar waith
Bydd Prif Weinidog Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn rhannu llwyfan mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon a fydd yn edrych ar ddulliau o annog defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Ddydd Gwener 13 Tachwedd, disgwylir dros 100 o gynrychiolwyr o wahanol sefydliadau a chwmnïau i gynhadledd ‘Rhoi’r Iaith yn y Gwaith’ a fydd yn rhoi sylw i rai o’r arferion gorau ledled Cymru o ran hwyluso defnydd o’r Gymraeg.
Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Portmeirion a’r brifysgol ei hun yn sôn am rai o’r cynlluniau sy’n cael eu defnyddio i roi cyfle i weithwyr ddefnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith, a hynny’n aml mewn cyd-destun lle mae traddodiadau gwaith a diffyg hyder yn milwrio yn erbyn hynny.
Gobaith y trefnwyr, Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor yw bydd ffocws y gynhadledd ar atebion ymarferol ac arloesol yn sbarduno ac ysbrydoli datblygiadau pellach yn y maes allweddol yma.
Bydd y gynhadledd yn cael ei hagor gan Yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, sydd ei hun yn enghraifft o bwysigrwydd hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle. Meddai’r Athro Hughes: “Fel prifysgol sydd wedi’i lleoli yng nghalon y Gymru Gymraeg, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o safon i’n myfyrwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol, ond rydym hefyd yn credu’n cryf mewn rhoi pob cyfle i’n staff ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae hynny’n creu dwyieithrwydd gweithredol a pherchnogaeth gan staff ar ethos dwyieithog y sefydliad.â€
Wrth edrych ymlaen at draddodi ei sgwrs yntau, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Mae’r gynhadledd yma yn gyfle gwych i roi ffocws ar bolisïau defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac i rannu arfer da a phrofiadau ymarferol yn y maes. Rydym yn gwybod taw’r ffordd i gaffael Iaith yw trwy ymarfer a chael cyfleoedd i’w hymarfer. Pa le gwell i wneud hynny, na phob dydd tra eich bod wrth eich gwaith? Mae’r gynhadledd hon yn amserol iawn a dwi’n edrych ymlaen at y cyfle i gydweithio ar draws sawl sector er mwyn symud yr agenda bwysig hon yn ei blaen.â€
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2015