Seminar Ymchwil 27 Hydref 2022 - âTermau Hil ac Ethnigrwydd.â
Cynhelir yr ail seminar yn ein cyfres seminarau Iaith a Thechnolegau Iaith misol (2022-23) am 3yh ddydd Iau y 27ain o Hydref yn ystafell seminar Duncan Tanner (39 Ffordd y Coleg).
Y siaradwr gwadd fydd Yr Athro Delyth Prys o’r Uned Technolegau Iaith, a teitl ei chyflwyniad fydd “Termau Hil ac Ethnigrwydd”. Mae’r Athro Delyth Prys yn gadeirydd grŵp Llywodraeth Cymru sy’n edrych ar dermau addas i drin materion ym ymwneud â hil ac ethnigrwydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r grŵp yn cynnwys siaradwyr Cymraeg o wahanol gymunedau ethnig yng Nghymru ac yn rhoi pwyslais ar ddefnyddio termau mae aelodau o’r cymunedau hynny yn hapus gyda nhw. Bydd y seminar hwn yn gyfle i drafod rhai o’r termau dan sylw a deall mwy am y broses ymgynghori a phenderfynu ar dermau penodol. Cynhelir y seminar yn Gymraeg ac mae croeso arbennig i ddysgwyr ymuno â ni.
Cofiwch hefyd am yr awr goctels rhwng 4 a 5 o’r gloch yn dilyn y digwyddiad. Croeso i bawb i hwnnw hefyd, mae’n ffordd dda o rwydweithio, hyd yn oed os nad ydych chi wedi gallu dod i’r seminar cyn hynny!
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2022