Termau addysg ar-lein
ydd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, yn lansio gwefan newydd Y Termiadur Addysg yng Nghaerdydd ar 22 Mawrth 2012. Bydd y wefan www.termiaduraddysg.org yn cynnwys fersiwn newydd helaethach o’r llyfr termau poblogaidd a gyhoeddwyd yn 2006, a hefyd cymorth ychwanegol i ddysgu a chwilio am dermau safonol Cymraeg ar gyfer plant ysgol a myfyrwyr colegau addysg bellach.
Meddai Delyth Prys, Prif Olygydd Y Termiadur Addysg: “Mae modd gwneud cymaint mwy mewn gwefan nag ar bapur. Bydd hi’n hawdd ychwanegu termau newydd drwy’r amser, yn hytrach na gorfod aros i eiriadur cyfan ddod o’r wasg. Bydd modd i ddefnyddwyr lwytho’r geiriadur lawr i ffonau symudol hefyd, a bydd yna gemau a nodweddion eraill i ddysgu termau anghyfarwydd.â€
Wrth groesawu’r wefan newydd, dywedodd Leighton Andrews: “Mae hyn yn hwb ymlaen i addysg Gymraeg, ac i’r iaith yn gyffredinol. Bydd yn adnodd gwerthfawr i bawb sy’n defnyddio’r iaith mewn ysgolion a cholegau, i gynhyrchwyr deunyddiau addysgol Cymraeg yn ogystal â’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae’n bwysig fod y dechnoleg ddiweddaraf yn cael ei defnyddio ar gyfer y gwasanaeth hwn, a bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y cyfryngau newydd, deniadol hyn."
Dyma’r trydydd fersiwn o Y Termiadur i Brifysgol Bangor ddatblygu ers 1993. Arweiniodd yr ymchwil ar y fersiwn cyntaf at sefydlu’r Ganolfan Safoni Termau o fewn y brifysgol, sydd bellach yn rhan o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr.
Meddai’r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: “Rydyn ni’n falch iawn fod Y Termiadur wedi medru tyfu a datblygu law yn llaw gyda’r technolegau newydd. Gosododd Y Termiadur sylfaen gadarn ar gyfer datblygu nifer mawr o eiriaduron termau safonol eraill ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys termau ar gyfer Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’n braf medru dathlu llwyddiant diweddaraf y gwaith arloesol hwn.â€
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2012