Newyddlenni
£6 miliwn i Dechnolegwyr ifanc
Mae Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Sgiliau, wedi cyhoeddi project gwerth £6 miliwn i annog pobl ifanc i ddilyn esiampl Bill Gates, Steve Jobs a thechnolegwyr ac entrepreneuriaid llwyddiannus eraill.
Bydd Prifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn Technocamps, a fydd o dan arweiniad Prifysgol Abertawe ac ar y cyd â Phrifysgolion Aberystwyth a Morgannwg. Bydd y prifysgolion yn cynnal sesiynau dyddiol ac wythnosol i ddisgyblion 11-19 oed ar ystod o bynciau cyffrous gan gynnwys roboteg, datblygu gemau, animeiddio, gwaith fforensig digidol, datblygu meddalwedd a llawer mwy.
Bydd Technocamps, a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn darparu cyfres o raglenni allgymorth i ysgolion a cholegau, gan ysbrydoli pobl ifanc i astudio pynciau cyfrifiadureg sy'n ategu ac yn cyd-fynd â'r pynciau STEM (Technoleg y Gwyddorau, Peirianneg, Mathemateg) a dilyn gyrfa yn un o'r meysydd strategol allweddol sy'n sbarduno twf economaidd ac yn creu cyfoeth.Bydd dros 2,600 disgybl o ardal Gydgyfeirio Cymru yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol, datblygu eu sgiliau technegol a chael cipolwg o'r ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael iddynt.
Caiff yr ysgolion sy'n rhan o'r project eu hannog i sefydlu 'Technoclubs' i annog disgyblion, yn enwedig merched, i barhau i ddysgu am bynciau STEM mewn amgylchedd cyfeillgar a rhyngweithiol.
Meddai Sa’ad Mansoor, Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor:
“Rydym yn gyffrous iawn o fod yn rhan o’r fenter Technocamps yng Nghymru.
“Mae’r sector technoleg a chyfrifiaduro’n tyfu ac yn sector o bwys i Gymru ac i’r Deyrnas Unedig. Bydd y project Technocamps yn galluogi Prifysgol Bangor i ennyn diddordeb disgyblion ysgol tra eu bod yn dal yn ifanc er mwyn cefnogi a chyfoethogi’r cwricwlwm gwyddoniaeth.
Mae ein rhaglen gweithgareddau eisoes yn datblygu a byddwn yn cysylltu ag ysgolion maes o law i roi manylion ynghylch sut i gymryd rhan.â€
Meddai Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Sgiliau: "Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein pobl ifanc yn gallu meithrin y sgiliau a'r hyder i ddefnyddio technolegau digidol. Mae cyflwyno Cymru Ddigidol yn dangos sut y gallwn fanteisio ar yr oes ddigidol a sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn meithrin y sgiliau technoleg lefel uwch sydd eu hangen i elwa ar y cyfleoedd gwerthfawr iddynt helpu economi ddigidol Cymru i dyfu.
"Mae'n hollbwysig ein bod yn annog mwy o bobl ifanc i astudio pynciau sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth. I wneud hyn mae'n bwysig ennyn eu diddordeb a'u hannog i gymryd rhan o'r cychwyn cyntaf, ac felly rwy'n falch o gefnogi Technocamps sydd â'r union nod hwnnw."
Dywedodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps: "Rwy'n hapus iawn ein bod yn gweld ffrwyth ein holl waith caled i lansio'r prosiect hwn. Mae'r prosiect, sydd y cyntaf o'i fath yng Nghymru, yn cysylltu ysgolion â phrifysgolion drwy weithdai a dosbarthiadau meistr arloesol, rhyngweithiol a chyffrous.
"Drwy'r rhain, bydd pobl ifanc yn gweld sut mae meddwl cyfrifiannol yn ategu'r pynciau STEM a sut i'w gymhwyso yn y 'byd go iawn'. Byddant wedyn yn cael eu hysbrydoli i weithio tuag at ennill cymwysterau mewn cyfrifiaduron a thechnoleg i ddiwallu'r angen am swyddi crefftus a gwerth uchel a fydd yn eu rhoi ar flaen economi ddigidol gyffrous sy'n tyfu'n gyflym.â€
Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2011