Newyddlenni
Cymru'n arwain y ffordd ym maes gwyddoniaeth goleuni
Cafodd project cyffrous newydd i Gymru gyfan ei lansio yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae’r project, CAMPUS (CApability Matrix for Photonics Up Skilling neu Matrics Galluoedd Gwella Sgiliau Ffotoneg), dan arweiniad Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor, yn canolbwyntio ar gydweithio efo cwmnïau o Gymru. Nod y project yw sicrhau bod ymchwil arbenigol ac offer datblygol, cyfleusterau a staff ar gael yn arbennig i gwmnïau ffotoneg yng Nghymru er mwyn sefydlu Cymru fel arweinydd yn y maes.
Fel yr esboniodd yr Athro Alan Shore, sy’n arwain y project o y Brifysgol:
“Ffotoneg yw gwyddoniaeth trin golau. Mae’r diwydiant wedi bod yn amlwg yng Nghymru o’r dechrau. Amcangyfrifwyd mewn adroddiad diweddar gan y Comisiwn Ewropeaidd fod gwerth y farchnad Ewropeaidd ar gyfer Ffotoneg tua £58.5 biliwn, sef 21% o farchnad y byd. Yn fyd-eang, mae'r diwydiant yn gyfrifol am werthiannau o tua £3 triliwn a 30 miliwn o swyddi. Mae gan Gymru’n 6% o ran o'r farchnad hynod bwysig hon. Mae ffotoneg yn berthnasol i bob sector o'r farchnad, o gynhyrchu sgriniau teledu a chwaraewyr ‘blue ray’ neu dvd i oleuo cartrefi a’r electroneg mewn ceir, yn ogystal â maes meddygaeth, lle mae laserau’n cael eu defnyddio i drin pob math o anhwylderau, a dyfeisiau delweddu’n cael eu defnyddio ar gyfer diagnosteg. Mae’n anodd credu bod tua un rhan o dair o gost car yn deillio o’r elfennau ffotoneg sydd ynddo; o’r goleuadau ‘led’ at sgriniau arddangos ac yn y blaen... Mae'r diwydiant yn arbennig o bwysig wrth i ddefnyddio llai o drydan i gael dyfodol mwy cynaliadwy gael sylw cynyddol. Gall gynnig electroneg a goleuo sydd yn defnyddio llai o ynni, a gall hyn fod o bwys strategol.â€
Mae'r project CAMPUS wedi agor drysau sefydliadau Addysg Uwch Cymru i gwmnïau o Gymru, gan ddarparu offer arbenigol i’w defnyddio ar draws Cymru. Mae'r math o offer sydd bellach ar gael mor arbenigol fel y byddai’n rhaid i’r cwmnïau fuddsoddi'n drwm er mwyn prynu dim ond un darn o’r offer. Bellach, trwy Brifysgol Bangor a'i phartneriaid, mae’n bosibl i gwmnïau ar draws Cymru ddefnyddio’r offer.
Mae cynllun o’r arbenigedd sydd ar gael i’w weld ar wefan Bangor bangor.ac.uk / ee o dan yr adran fusnes. Dylai unrhyw gwmni sy'n dymuno cymryd rhan gysylltu â'r Athro Alan Shore yn Ysgol Peirianneg Electronig y Brifysgol ar 01248 382618, e-bost k.a.shore@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Awst 2012