Newyddlenni
Cynhyrchu fisorau diogelwch gyda thechnoleg argraffu 3D
Mae disgyblion ac athrawon Ysgol Godre'r Berwyn, gyda chefnogaeth gan Creo Medical, yn cynhyrchu fisorau diogelwch gyda thechnoleg argraffu 3D dan arweiniad Ilan Davies (myfyriwr PhD yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig sy'n gweithio gyda Creo Medical).
Mae Ilan Davies yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Godre'r Berwyn ac mae'n gweithio yn Creo Medical ac yn astudio am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Sefydlwyd Creo Medical yn 2003 yn wreiddiol dan yr enw MicroOncology Ltd gan yr Athro Chris Hancock, i dargedu triniaeth canserau trwy ddefnyddio egni microdon amledd uchel a thechnegau paru deinamig.
Ilan Davies, Creo Medical ac Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, Prifysgol Bangor.
Aeth y cwmni â'r argraffwyr 3D i'r ysgol. Meddai Ilan “roedd yn dda gallu gwneud rhywbeth sy’n wirioneddol ymarferol, ac yn ddefnyddiol, mewn ymateb i’r argyfwng hwn”. Ychwanegodd “bydd yr ysgol yn gallu cadw’r rhan fwyaf o’r peiriannau hyn wedyn, ac rydym yn awyddus i gydweithio efo’r ysgol ar brojectau eraill. Rydym wedi dosbarthu'r fisorau i weithwyr gofal cartref Cyngor Gwynedd yn ardal y Bala ac i fferyllfeydd a meddygfeydd”.
Nyrsys ardal yn y Bala yn gwisgo'r fisorau gorffenedig.
Mae gan y disgyblion ddiddordeb anhygoel yn y gwaith. Mae Cari, disgybl 9 oed, yn hoffi'r gwaith gymaint, mae hi'n cyrraedd y labordy o mlaen i ac yn siarad yn ddi-baid am y gwaith a'r dechnoleg efo'i rhieni ar Ă´l cyrraedd adref ac mae hi wrth ei bodd yn dod i'r ysgol, gan fod ei rhieni'n weithwyr allweddol. Mae hi hyd yn oed wedi gofyn i'w rhieni brynu argraffydd 3D iddi! Mae myfyriwr TGAU sy'n gweithio ar y 'llinell gynhyrchu' yn awyddus i gymryd rhan gan fod ei rieni hefyd yn weithwyr allweddol. Ar Ă´l wythnos o helpu, mae'n ystyried dilyn cwrs addysg uwch mewn technolegau, rhywbeth nad oedd wedi ei ystyried o'r blaen.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2020