Newyddlenni
Darlithwyr yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae dau ddarlithydd o Brifysgol Bangor yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Yr wythnos yma cyhoeddodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ganlyniadau Etholiad 2014 am Gymrodyr newydd. O’r pedwar deg a thri o Gymrodyr newydd eleni, roedd dau o Brifysgol Bangor - Yr Athro James Scourse o’r Ysgol Gwyddorau Eigion a’r Athro Nigel John o’r Ysgol Gyfrifiadureg.
Meddai Yr Athro James Scourse: “Mae gwyddoniaeth yn ymdrech gymdeithasol a chymunedol. Rwyf yn falch iawn o gael fy ethol yn Gymrawd ond mae llawer o’r clod i fy ffrindiau, cyd-weithwyr a fy myfyrwyr ymchwil o fewn yr Ysgol Gwyddorau Eigion; myfyrwyr yr ydwyf yn ffodus iawn o gael gweithio gydag ers 1985. Mae Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn le arbennig i astudio gwyddorau’r môr.â€
Meddai’r Athro Nigel John o’r Ysgol Gyfrifiadureg: “Roedd yn gyfle gwych i mi ddychwelyd i’m gwlad enedigol pan wnes i ymuno â Phrifysgol Bangor yn 2003. Mae’r gefnogaeth yr ydwyf wedi ei chael gan y Brifysgol dros y ddeng mlynedd diwethaf wedi bod yn elfen bwysig iawn yn fy etholiad i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’n fraint cael yr anrhydedd yma ac mae angen i mi ddiolch i fy nghyd ymchwilwyr a’m myfyrwyr am eu cyfraniad.â€
Meddai Syr John Cadogan, Llywydd y Gymdeithas: “Rydym unwaith eto wedi ethol carfan gref o Gymrodyr newydd, i ychwanegu at y rhestr ragorol o Gymrodyr Sefydlol a Chymrodyr diweddarach. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd ein Cymrodoriaeth yn parhau i dyfu drwy etholiad a seilir ar adolygiad cymheiriaid. Bydd cael eu hethol yn parhau i fod yn darged i’n hysgolheigion ifanc.â€
Etholir rhai’n Gymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig drwy drefn enwebiadau gan Gymrodyr cyfredol. Mae’n agored i ddynion a merched o bob oed ac o bob grŵp ethnig sydd â hanes cadarn o ragoriaeth a chyflawniad yn unrhyw un o'r disgyblaethau academaidd. Gellir ethol cymrodyr hefyd o blith aelodau o'r proffesiynau, y celfyddydau, diwydiant, masnach neu wasanaethau cyhoeddus, sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd dysg. Rhaid i’r cymrodyr naill fod yn byw yng Nghymru, neu wedi'u geni yng Nghymru ond sy'n byw mewn man arall yn awr, neu sydd â chyswllt penodol â Chymru mewn rhyw ffordd arall.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2014