Newyddlenni
Dathlu rhagoriaeth ymysg myfyrwyr y flwyddyn gyntaf
Mae rhai o fyfyrwyr disgleiriaf y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth am eu llwyddiant academaidd yn eu Lefel A.
Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Prifysgol Bangor yn cael eu dyfarnu i'r myfyrwyr newydd sydd â'r cyrhaeddiad academaidd uchaf yn eu pynciau penodol.
Derbyniodd tair ar ddeg o fyfyrwyr ysgoloriaethau gwerth o £3,000 hyd at £4,000 mewn noswaith wobrwyo arbennig a gynhaliwyd gan y Dirprwy Is-Ganghellor Yr Athro Oliver Turnbull.
Rhoddwyd 65 o Ysgoloriaethau Mynediad werth dros £138,000 i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf.
Y myfyrwyr a dderbyniodd ysgoloriaethau oedd:
- Myfyriwr Ieithyddiaeth, Robert Reddington
- Myfyriwr Cerdd, Jerome Becks
- a Sioned Rowlands o Ysgol y Gymraeg
- Myfyrwraig Peirianneg Electronig, Daisy Hung
- o’r Ysgol Gemeg
- o Ysgol y Gyfraith
- Myfyrwyr Gwyddorau Naturiol Alex Moir, , Harry Elliott a Llywelyn Hill
- o’r Ysgol Seicoleg
- Myfyrwraig Gwyddorau Chwaraeon, Kelly Baldwin
Mae Elinor Pritchard o Rosneigr yn Ynys Mon yn gyn disgybl Ysgol Gyfun Llangefni. Mae Elinor wedi ennill Ysgoloriaeth Rhagoriaeth am iddi gael A* mewn Celf, A mewn Daearyddiaeth ac A mewn Cymraeg yn ei Lefel A.
Dywedodd Elinor, “Mae’n deimlad gwych ennill yr ysgoloriaeth gan nad oeddwn yn ei ddisgwyl. Gweithiais yn galed iawn ar gyfer fy arholiadau Lefel A ac mae’n bleser cael clod am wneud hynny.â€
Mae Mirain Llwyd Roberts, sy’n astudio Seicoleg, yn 19 mlwydd oed ac yn dod o Langwm, Sir Conwy. Mynychodd Ysgol y Berwyn, Bala a derbyniodd 3 A yn ei Lefel A, ynghyd a'r Bagloriaeth Cymraeg.
Meddal Mirain, "Mae’n deimlad anhygoel, nid oeddwn wedi disgwyl y buasai gennyf unrhyw fath o siawns i ennill yr ysgoloriaeth yma. Rwyf ar hyn o bryd yn ystyried cymryd rhan yn y cynllun Erasmus rhywbryd yn ystod fy nghyfnod yma ym Mangor ac felly buasai yr arian o gymorth mawr i gwblhau hwnnw. Hefyd bydd yn ddefnyddiol iawn i brynnu llyfrau ac adnoddau addysgol eraill."
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2014