Newyddlenni
Fujitsu yn ennill cytundeb i hybu uwchgyfrifiaduro yng Nghymru
Heddiw (Mawrth 22) cyhoeddwyd Fujitsu, y cwmni technoleg byd-eang enfawr, fel partner newydd Prifysgolion Cymru. Nod y bartneriaeth yw creu rhwydwaith uwchgyfrifiaduro o safon fyd-eang unigryw gwerth £40 miliwn, yn ogystal â sefydliad ymchwil a datblygiadau arloesol ac academi sgiliau.
Bydd y rhywdwaith gefnogol yn ymestyn i bob cornel o Gymru gyda chyrhaeddiad ledled y byd.
Mae’r cytundeb werth £15 miliwn dros bedair blynedd i Fujitsu a nhw fydd yn darparu’r rhwydwaith a’r gwasanaethau.
Mae hyn yn cynrychioli cam enfawr mewn cyfrifiaduro perfformiad uchel yng Nghymru a bydd yn cyflwyno’r dechnoleg gyfrifiaduro fwyaf datblygedig sydd ar gael i’r wlad.
Gall cyfrifiaduro perfformiad uchel ddelio a dadansoddi meintiau enfawr o ddata ar gyflymder uchel gan ddod â datblygiadau arloesol i’r farchnad yn gynt.
Mae prosiect Cyfrifiaduro Perfformiad Uchel Cymru () o bwys strategol i economi Cymru ac yn creu gallu uwchgyfrifiaduro ledled y wlad sydd ar gael i brifysgolion a diwydiant. Bydd yn sefydlu Cymru fel canolfan ryngwladol flaengar ar gyfer ymchwil cyfrifiadurol arbenigol gan ddarparu mantais gystadleuol gref.
Mae graddfa a ffurf ddosranedig y fenter, yn ogystal â’i natur agored i fusnesau yn golygu ei fod yn unigryw ac yn ddigynsail yn y DU a gweddill Ewrop.
Ar gael drwy rwydwaith wedi ei chysylltu â 12 safle ledled Cymru, cefnogir y buddsoddiad mewn cyfleusterau ac offer uwchgyfrifiaduro gan fuddsoddiad mawr mewn datblygu sgiliau uwch ac hyfforddiant yn ogystal ag hyfforddi hollol addas a chymorth ymchwil ar gyfer busnes.
Dechreua Fujitsu ar y gwaith yn syth gyda chymorth eu partneriaid sy’n cynnwys enwau cyfarwydd megis Microsoft ac Intel. Y nod yw i’r prosiect fod yn gwbl weithredol erbyn diwedd y flwyddyn.
Yn disgrifio’r prosiect, dywedodd Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ei fod yn fuddsoddiad mawr yn nyfodol Cymru – yn darparu’r cyfleusterau uwchgyfrifiaduro a’r staffio sydd ei angen ar gyfer cynnydd yn y dyfodol.
Dywed: “Bydd yn darparu cefnogaeth hanfodol ar gyfer sectorau diwydiant allweddol yn ogystal ag ysgogi tyfiant mewn TGCh a diwydiannau eraill. Mae’n cefnogi ein rhaglen Adnewyddu Economaidd gan roi mantais gystadleuol i fusnesau. Bydd hyn yn annog diwydiant sy’n ychwanegu gwerth uwch ac yn gwneud Cymru yn lle deniadol ar gyfer buddsoddiad o werth uchel.â€
Dywedodd siaradwr ar ran Fujitsu: “Ein gwaith ni gyda HPC Cymru fydd un o’r systemau grid dosbarth-menter mwyaf arwyddocaol yn Ewrop heddiw, a hwn fydd prosiect HPC mwyaf Fujitsu yn Ewrop.
“Yr hyn sy’n allweddol i ni yw’r ffaith fod HPC bellach yn fwy na mesur technegol uwchgyfrifiaduro ‘tera’ a ‘petaflop’.
Yn hytrach, mae’n ymwneud â’r hyn y gall HPC ei gyflawni ac yn y pendraw, y newid gall hynna wneud. Rydym yn hyderus bydd ein gwaith gyda HPC Cymru yn creu datblygiadau technoleg, sgiliau, ymchwil, swyddi ac economaidd sylweddol.â€
Soniodd Lesley Griffiths, Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, y buasai’n creu cyfnod newydd o ymchwil masnachol ledled Cymru gan ffurfio cydweithredu agos rhwng busnesau a phrifysgolion.
“Bydd yr academi ar’r rhaglenni sy’n ymestyn allan yn gyrru sgiliau lefel uchel hefyd, gydag amcanion cryf er mwyn adeilaidu lefelau sgiliau o fewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, a gwyddor wedi ei seilio ar gyfrifiaduro. Bydd o gymorth i fusnesau ym mhob rhan o Gymru ac yn gweddu’r cymorth a ddarperir drwy’r rhaglen Adnewyddu Economaidd.â€
Yng Nghaerdydd ac Abertawe/Penfro fydd y prif ganolfannau cyfrifiadur. Cysylltir y rhain gyda sbôcs yn Abertawe, Aberystwyth, Bangor a Phrifysgol Morgannwg â chyswllt pellach gyda Phrifysgolion Cynghrair Prifysgol Cymru a chanolfannau datblygiadau arloesol busnes drwy Gymru.
Mae HPC Cymru, a gyhoeddwyd mis Gorffennaf diwethaf, yn cynnwys tair elfen:
- buddsoddiad mewn offer newydd, hawdd mynd ato o ganolfannau ledled Cymru
- academi hyfforddi i ddatblygu sgiliau cyfrifiaduro perfformiad uwch ymysg ymchwilwyr
- a sefydliad er mwyn darparu gwasanaethau technegol lefel uchel i gefnogi gweithgareddau ymchwil ac economaidd.
Mae cerbyd pwrpasol, sef sefydliad elusengar, wedi ei sefydlu gan Brifysgolion Grŵp Dewi Sant a Phrifysgol Cymru a hwn fydd yn rheoli’r prosiect.
Mae arian y prosiect yn dod o’r canlynol –
£19m o gronfeydd Ewropeaidd ERDF ac ESF – wedi ei sianelu drwy WEFO.
£10m o Adran BIS y DU.
£4m o sefydliadau cydweithredol.
£5m o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac incwm y sector preifat ac ymchwil.
Bydd y £40m o fuddsoddiad yn mynd tuag at gostau offer, rheolaeth a gweithredol dros y bum mlynedd gyntaf hyd at 2015. Datblygir cynllun er mwyn sicrhau cynaliadwyaeth ar ddiwedd y bum mlynedd.
Nododd Yr Athro Noel Lloyd, cadeirydd Addysg Uwch Cymru ac is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae HPC Cymru yn enghraifft wych o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn cydweithio er mwyn cyrraedd nod cyffredin. Ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad cymaint o bobl sy’n gweithio o fewn addysg uwch a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r gwaith tîm a’r cydweithio wedi bod y rhagorol ac yn galonogol ar gyfer y dyfodol.â€
Am ragor o wybodaeth am ymwneud Prifysgol Bangor â HPC Cymru cysylltwch â Phil Lane e bost p.lane@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2011