Newyddlenni
Grant gan Academi Frenhinol ar gyfer y ‘Photo-Electric Light Orchestra’
Mae project arloesol gan Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor mewn partneriaeth â Chanolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol wedi sicrhau grant gwerth £30,000 gan y Royal Academy of Engineering fel rhan raglen 'Ingenious' yr Academi - rhaglen sy'n mynd ati i ymgysylltu’r cyhoedd gyda pheirianneg.
Bydd project y 'Photo-Electric Light Orchestra’ yn ysbrydoli plant rhwng 9-13 oed yn y rhanbarth i ddylunio eu hofferynnau cerdd eu hunain trwy roi sgiliau codio ar waith a thrwy ddefnyddio ffotoneg, y gwyddor o astudio golau mewn technoleg, i greu darn o gerddoriaeth a fydd yn cael ei berfformio yn Pontio, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi y Brifysgol ar derfyn y project yn 2020.
Dan arweiniad Dr Daniel Roberts, Darlithydd mewn Peirianneg Electronig yn yr Ysgol gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd y project yn cael ei gyflwyno i ddisgyblion o 8 ysgol prif ffrwd ac arbennig yn y rhanbarth a bydd y cam cyntaf yn cyflwyno sgiliau codio i’r disgyblion er mwyn iddynt ddylunio ac argraffu mewn 3D offerynnau cerdd arloesol. Yna, trwy ddefnyddio grym goleuni trwy gyfrwng lasersau neu LEDs, bydd yr offerynnau hyn yn creu nodau cerddorol a fydd yn y pen draw yn cael eu hychwanegu at gyfansoddiad unigryw y gerddorfa.
Bydd y project yn cael ei lansio ar stondin y Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, cyn dechrau o ddifrif yn y flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi, gyda'r rhai sy'n cymryd rhan yn cael eu gwahodd i'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ar gyfer diwrnod o weithdai codio a ffotoneg.
Mae project ‘Ingenious’ yr Royal Society of Engineering wedi ariannu dros 200 o brojectau hyd yma, gan ddarparu cyfleoedd i bron i 6,000 o beirianwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd, i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a helpu i ddod â maes peirianneg i brif lwyfan cymdeithas.
Wrth ymateb i'r newyddion am y grant, dywedodd Dr Roberts:
“Mae hwn yn gyfle gwych i weithio ar y cyd â'r Ganolfan Ehangu Mynediad a gyda phlant o'r ardal leol. Mae’n gyfle i ymgysylltu’r disgyblion â gweithgareddau STEM, ond hefyd gyda pheirianwyr, gyda rhai ohonynt ar ddechrau eu gyrfaoedd ac a fydd yn ennill profiad amhrisiadwy o weithio gyda phlant a chymunedau lleol. Bydd yn rhoi cyfleoedd iddynt ymgysylltu â mwy o bobl ifanc a’u hysbrydoli i gymryd rhan mewn pynciau STEM yn y dyfodol. Darlithio a chynnal ymchwil labordy yw fy ngwaith dydd i ddydd, felly mae gallu mynd allan i'r gymuned a darparu gweithdai STEM ac annog pobl ifanc i aros yn y maes yn brofiad gwerth chweil. Mae’n ystrydeb, ydi, ond doedd dim cyfleoedd fel hyn pan oeddwn yn yr ysgol, felly mae gallu cyflwyno'r mathau hyn o weithgareddau yn wych.â€
Ategwyd hyn gan Delyth Murphy, Pennaeth Canolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol, a ddywedodd:
“Rhan bwysig o rôl y Ganolfan Ehangu Mynediad yw hwyluso gwaith ymgysylltu ochr yn ochr â staff academaidd y Brifysgol. Mae'r prosiect hwn yn rhoi cyfle newydd i gyflwyno myfyrwyr ôl-raddedig ym maes Peirianneg Electronig a Cherddoriaeth i ymgysylltu â disgyblion mewn 8 ysgol gan gynnwys dwy ysgol Addysg Anghenion Arbennig yn ardal Gwynedd.â€
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2019