Newyddlenni
Hummit, ap newydd gan fyfyriwr o Prifysgol Bangor
Rydym i gyd wedi teimlo’n rhwystredig ar adegau wrth fethu â rhoi enw i gân neu alaw sy’n chwarae yn ein pennau. Wel, mae Joey Elliott, sy’n 22 oed ac yn dod o Groesoswallt, wedi datblygu ‘ap’ i ddatrys eich penbleth! Mae’r ap a ddatblygwyd ganddo yn eich galluogi i ddarganfod enw alaw sy’n troi yn eich pen, megis enw rhyw gân fachog a glywsoch ar y radio, a chithau wedyn yn methu’n lân a chofio beth oedd ei henw neu pwy oedd yn ei chanu. Creodd Joey’r Ap ar ôl profi hyn ei hun, ac mae’n gobeithio datrys y broblem i eraill.
Daeth Joey, sydd bellach yn ei flwyddyn olaf, i Brifysgol Bangor i ennill gradd Meistr mewn peirianneg electronig. Yn ei amser hamdden, mae wedi dysgu iddo ei hun y sgiliau a thechnegau sydd eu hangen i ddatblygu apiau. Hoffai Joey annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes i fwrw ati.
Meddai Joey: “Dim ond chwe mis a gymerodd i mi adeiladu Hummit o’r cychwyn hyd nes ei fod yn barod i’w ryddhau. Mae datblygu’r project hefyd wedi rhoi cyfle i mi fagu nifer o sgiliau gwerthfawr i’w nodi ar fy CV, fel profiadg gyda AWS (Amazon Web Services) a Xamarin (platfform meddalwedd o eiddo Microsoft).â€
I ddefnyddio Hummit, a ryddhawyd fis Ebrill diwethaf, mae angen recordio sampl sain byr. Gall holl ddefnyddwyr eraill yr ap wedyn glywed y sampl a recordiwyd, ac ymateb gydag atebion . Yna gellir dewis yr ateb cywir, ac mae pwyntiau’n cael eu rhannu ar gyfer yr atebion, sydd yna’n dynodi eich sgôr. Mae Hummit ar gael i’w lawr lwytho ar gyfer Android, iOS a Windows.
Meddai arolygydd traethawd hir Joey, Dr Maziar Nezhad yn yr Ysgol Peirianneg Electronig:
“Nodwedd yr ap yw ei fod yn adnabod darn o gerddoriaeth drwy ddull torfoli o weithredu. Gall hyn alluogi adnabyddiaeth fwy eang nag apiau sydd yn ddibynnol ar ddeallusrwydd artiffisial (fel Shazam a SoundHound), gan gymryd yn ganiataol bod digon o bobol yn cymryd rhan.â€
Twitter: twitter.hummit.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2018