Newyddlenni
Rhaglen iPad rhith-ddysgu yn helpu i hyfforddi niwrolawfeddygon y dyfodol
Bydd rhaglen symudol newydd, y gellir ei lawr lwytho yn rhad ac am ddim, yn helpu i hyfforddi niwrolawfeddygon y dyfodol. Mae’n un o nifer o raglenni sy’n cael eu datblygu, yn addasu cyfrifiadura gweledol a gwirionedd tri dimensiwn i ddarparu rhith-ddysgu cost effeithiol ar gyfer nifer o wahanol driniaethau meddygol.
Un o'r sgiliau sylfaenol y mae’n rhaid i nirwolawfeddygon dan hyfforddiant eu dysgu yn gynnar yn eu hyfforddiant yw deall y system fentriglaidd yn yr ymennydd, a sut i’w bibellu mewn argyfwng. Gall llif yr hylif yn yr ymennydd gael ei rwystro gan nifer o brosesau patholegol sy’n arwain at gyflwr peryglus o’r enw hydroseffalws. Gall y pwysau yn y fentriglau godi, gan arwain at y claf yn mynd yn anymwybodol. Gellir pibellu’r system fentriglaidd yn yr ystafell law-drin, draenio’r hylif a lleihau’r cynnydd yn y pwysau a all arwain at farwolaeth. Gwneir y driniaeth hon yn aml mewn adrannau niwrolawfeddygol.
Mae Llŷr ap Cenydd, o’r Uned Uwch Ddelweddu Meddygol a ariannir gan NISCHR ym Mhrifysgol Bangor, newydd ddatblygu offer hyfforddi llawfeddygol ar gyfer y llechen iPad o’r enw ‘VCath’. Mae wedi ei gynllunio fel y gall hyfforddai niwrolawfeddygol fynd drwy’r camau o roi’r catheter yn ei le a’i fewnosod i ymennydd claf tri dimensiwn rhithwir. Mae’r camau hyn yn rhan o drefn a elwir yn ‘rhoi cathetr mewn fentrigl’, ac a ddefnyddir i ddraenio hylif sydd wedi ei ddal yn fentriglau’r ymennydd. Mae mewnosod y cathetr ar yr ongl a’r dyfnder cywir fel ei fod yn torri twll yn y fentrigl yn hollbwysig er mwyn sicrhau canlyniad llwyddiannus i’r claf. Mae’n rhaid bod gan y niwrolawfeddyg ymwybyddiaeth tri dimensiwn ragorol gan nad yw'r rhannau o'r corff sydd dan sylw yn weladwy yn ystod y driniaeth.
Mae ‘VCath’ yn galluogi hyfforddeion i wella eu dealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y driniaeth cyn iddynt orfod ei wneud yn yr ystafell law-drin. Bydd hyfforddi trwy ddefnyddio’r efelychydd cost effeithiol hwn yn helpu i roi'r sgiliau angenrheidiol i hyfforddeion niwrolawfeddygol fel y gallant gyflawni'r driniaeth yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae’n rhoi’r cyfle iddynt ymarfer dro ar ôl tro, unrhyw le, unrhyw bryd, a gall wella’r canlyniad a’r profiad i gleifion a’i wneud yn ddiogelach.
Datblygwyd ‘VCath’ gan yr Uned yn yr ym Mhrifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â Mr Nick Phillips, Niwrolawfeddyg Ymgynghorol yn ysbyty Leeds General Infirmary, a’r Athro William Gray, Athro Niwrolawfeddygaeth Weithredol, Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddoniaeth Glinigol, Prifysgol Caerdydd. Mae gwelliannau pellach yn cael eu gwneud i’r offer ar hyn o bryd.
Meddai Nick Phillips, Niwrolawfeddyg Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Clinigol yr Adran Niwrolawfeddygaeth yn Leeds General Infirmary:
“Mae niwrolawfeddygaeth yn arbenigedd risg uchel ac mae darparu cyfleoedd hyfforddi diogel i lawfeddygon bob amser yn her. Bydd yr offer hyfforddi hwn yn galluogi’r hyfforddai i ddysgu’r rhan fwyaf o’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r driniaeth hon mewn amgylchedd diogel heb risg. Mae’n hybu trafodaeth gyda’r hyfforddwyr ac mae’n ffordd wych o ymwreiddio’r sgiliau angenrheidiol”
Dywedodd yr Athro William Gray, Athro Niwrolawfeddygaeth Swyddogaethol, yn Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddoniaeth Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd:
Mae VCath yn rhaglen iPad newydd cyffroes sy’n golygu y gall hyfforddeion ddysgu’r sgiliau damcaniaethol ac ymarferol sylfaenol o roi cathetr mewn fentrigl mewn amgylchedd a efelychir yn realistig. Mae’n offer buddiol i wella’r broses o ddysgu’r sgiliau craidd ac yn ddatblygiad pwysig o ran defnyddio efelychu ar gyfer hyfforddiant niwrolawfeddygol”
Meddai’r Athro Nigel John, Cyfarwyddwr yr Uned
“Roeddem wedi datblygu offer hyfforddi tebyg yn flaenorol a oedd yn gweithio yn y porwr gwe. Mae VCath yn welliant technegol sylweddol ar y gwreiddiol, yn arbennig o ran defnyddio rhyngwyneb bysedd yr iPad”.
Mae'r offer hyfforddi ‘VCath’ ar gael i’w lawrlwytho o .
Mae ffilm fer ar gael .
Gwyliwch glip o raglen Wales Today y .
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2013