
Salvador S谩nchez-Col贸n
MSc Ecoleg, 1986

鈥淢i wnaeth fy ngwraig, Mar铆a Elena S谩nchez Salazar, a minnau'r cwrs gradd MSc mewn Ecoleg ym 1985-1986 yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.
Enillodd y ddau ohonom ein graddau BSc mewn Bioleg o Sefydliad Polytechnig Cenedlaethol Mecsico a chawsom ein cyflogi fel darlithwyr cynorthwyol rhan amser yn eu Hysgol Genedlaethol Gwyddorau Biolegol yn Ninas Mecsico. Teimlodd y ddau ohonom, wrth weithio yn y byd academaidd, fod angen inni ddilyn astudiaethau 么l-radd er mwyn gallu traddodi darlithoedd teilwng a chynnal ymchwil wyddonol.
Roedd y posibilrwydd o ddilyn astudiaethau 么l-radd mewn sefydliad 鈥榖yd cyntaf鈥 sy'n arwain ym maes ecoleg yn gyfle a her hynod ddeniadol. Roedd yr Athro John L. Harper, yr Athro Raymond Seed, yr Athro Roger Hughes a'r Athro Peter Greig-Smith ymhlith yr ymchwilwyr arweiniol a oedd yn datblygu safbwyntiau a dulliau methodolegol newydd i ddeall ffenomenau ecolegol cymhleth, pob un ohonynt ym Mangor.
Yn ffodus ddigon, cafodd y ddau ohonom Grant Cydweithrediad Technegol gan y Cyngor Prydeinig i wneud astudiaethau MSc yn y Deyrnas Unedig. Roedd yr ysgoloriaeth yn talu ein ffioedd ysgol a chostau byw ac, er ei fod prin yn ddigon i dalu鈥檙 costau o ddydd i ddydd, roedd yn eithaf cynhwysfawr gan ei fod yn cynnwys cwrs Saesneg pedair wythnos ar y dechrau, yn ogystal 芒 th芒l penodol ar gyfer dillad gaeaf, llyfrau, argraffu鈥檙 traethawd ymchwil, teithio i fynd ar deithiau astudio gofynnol a oedd yn rhan o鈥檙 cwrs, ac ati. Oherwydd hyn, llwyddwyd i rentu bwthyn bach allan yn Gerlan (uwchben Bethesda) yn hytrach nag aros yn neuaddau preswyl y brifysgol. Roedd hyn, fodd bynnag, yn golygu taith gymudo 5 milltir bob dydd a wnaed ychydig yn heriol gan wynt a glaw parhaus Gogledd Cymru a'r eira yn y gaeaf. Serch hynny, fe wnaethon ni fwynhau cael lle i ni ein hunain, lle roedden ni鈥檔 gallu canolbwyntio ar ein hastudiaethau. Gwnaeth y ddau ohonom yn dda iawn ar y cwrs MSc ac roedd fy ngwraig hyd yn oed yn gallu cyhoeddi cwpl o bapurau gwyddonol allan o'i thraethawd ymchwil. Clywsom ein bod wedi cael y marciau uchaf yn ein dosbarth.
Er nad oedd gweithredu yn y Saesneg yn y Brifysgol yn peri unrhyw drafferth i ni, roedd yr amgylchedd Cymraeg, yn enwedig i fyny yn Gerlan, yn peri her o bryd i'w gilydd, ond mi weithiodd popeth allan diolch i garedigrwydd ein darlithwyr a'n cymdogion Cymraeg a Saesneg. Gan fod ein holl dreuliau dyddiol, yn y b么n, wedi鈥檜 talu gan yr ysgoloriaeth a鈥檔 bod yn canolbwyntio鈥檔 fawr ar ein hastudiaethau, roeddem yn gallu gwneud arbedion yn ystod y flwyddyn i fynd ar ychydig o deithiau byr i Ewrop yn ystod gwyliau鈥檙 gaeaf cyn dychwelyd adref ar ddiwedd y cwrs.
Fe wnaethom ddychwelyd i Fecsico gydag ymdeimlad o hunanhyder a鈥檔 bod wedi cyflawni llawer. Er ein brwdfrydedd, fodd bynnag, roedd ein hamodau gwaith yn anodd, y cyflogau鈥檔 isel yn y byd academaidd, chwyddiant yn uchel yn y wlad ac adnoddau鈥檔 brin ar gyfer ymchwil. Yn fuan wedyn, dechreuodd y ddau ohonom chwilio am gyfleoedd eraill.
Erbyn 1989 roedd Mar铆a Elena wedi dechrau gyrfa reoli lwyddiannus mewn diwydiant, yn gweithio i Procter and Gamble, cam a hwyluswyd gan lythyrau cymeradwyo cadarn y bu i drefnydd ei chwrs MSc (Yr Athro Malcolm Cherrett) a'i chynghorydd traethawd hir (Yr Athro Raymond Seed) eu hysgrifennu ar ei chyfer.
Er i mi hefyd dderbyn cynnig swydd gan y diwydiant, penderfynais aros yn y Sefydliad Polytechnig Cenedlaethol (IPN), lle gwnes i gynnydd proffesiynol da yn araf bach. Yn y pen draw, cefais fy mhenodi'n gydlynydd y rhaglen MSc Ecoleg, des yn aelod o'r System Genedlaethol o Ymchwilwyr ac, yn ddiweddarach, yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Materion Academaidd Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Biolegol yr IPN.
Ganed ein mab ym 1994 a'n merch flwyddyn yn ddiweddarach. Oherwydd cyflwr iechyd o fewn fy nheulu, penderfynodd Mar铆a Elena roi'r gorau i'w gyrfa reoli addawol iawn mewn diwydiant i ofalu am y plant. Roedd cael dim ond un cyflog yn profi鈥檔 anodd weithiau ac arweiniodd hyn, ynghyd 芒鈥檌 chwilfrydedd di-ben-draw, dynameg, ac entrepreneuriaeth, iddi barhau i weithio fel ymgynghorydd llawrydd, rhan amser i鈥檞 chyn swyddfa yn P&G ac, wedi hynny, i gwmn茂au eraill yn yr un sector diwydiant. Dros y blynyddoedd, canolbwyntiodd ei gwaith ymgynghorol ar gyfieithu dogfennau technegol (Saesneg-Sbaeneg) i鈥檙 diwydiant fferyllol ac ar gyfieithu llawysgrifau (Sbaeneg-Saesneg) i鈥檞 cyhoeddi mewn cyfnodolion gwyddonol a adolygwyd gan gymheiriaid a ysgrifennwyd gan ymchwilwyr mewn prifysgolion a chanolfannau ymchwil ym Mecsico. Afraid dweud bod y datblygiad hwn yn bosibl oherwydd ei chefndir gwyddonol cadarn a鈥檌 meistrolaeth lawn ar y Saesneg, y ddau wedi鈥檜 meithrin gan ein hastudiaethau a鈥檔 harhosiad ym Mangor.
Erbyn 2000 dechreuais chwilio am gyfleoedd gwaith eraill, gan fod amodau gwaith yr IPN yn parhau i fod yn gyfyngedig iawn. Yn 2002, daeth y cyfle i mi wasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwybodaeth Amgylcheddol ac Ystadegau yng Ngweinyddiaeth yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol Mecsico. Gwasanaethais yn y swydd hon rhwng 2002 a 2006. Gan fod gwybodaeth amgylcheddol wedi bod yn bwnc pwysig iawn ers amser maith mewn llawer o wledydd, roedd fy ngwaith yng Ngweinyddiaeth yr Amgylchedd hefyd yn cynnwys agenda ryngwladol brysur, yn mynd i gyfarfodydd a chynadleddau mewn gwahanol rannau o'r byd, yn aml yn cynrychioli llywodraeth Mecsico mewn cynadleddau rhyngwladol fel yr OECD ac UNEP. Gallaf ddweud bod hyn oll wedi鈥檌 wneud yn bosibl gan fy nghefndir gwyddonol cadarn mewn ecoleg, fy meistrolaeth lawn ar y Saesneg, a鈥檓 hunanhyder, a鈥檙 cyfan wedi鈥檌 feithrin gan ein hastudiaethau a鈥檔 harhosiad ym Mangor.
Efallai oherwydd fy ngwaith llwyddiannus yng Ngweinyddiaeth yr Amgylchedd Mecsico, yn 2006 daeth y cyfle i fod yn Gydlynydd Rhanbarthol ar gyfer America Ladin a'r Carib卯 yn Adran Rhybudd Cynnar ac Asesu Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig. Roedd hon yn swydd uchel ei pharch, gyda chwmpas rhanbarthol, ond hefyd yn heriol iawn oherwydd y nifer fach o aelodau staff, y teithiau mynych, a'r gyllideb gyfyngedig oedd gennym i gefnogi'r 33 o wledydd America Ladin a鈥檙 Carib卯. Yn anffodus, yn fuan ar 么l i mi ymuno ag UNEP, gwnaed y penderfyniad i adleoli swyddfa ranbarthol America Ladin a鈥檙 Carib卯 o Ddinas Mecsico i Ddinas Panama, ar unwaith. Oherwydd rhesymau teuluol, nid oeddwn yn gallu adleoli a gwnes y penderfyniad anodd i roi'r gorau i'm swydd yn UNEP ar 么l dim ond 11 mis yno.
Rhwng 2009 a 2017 b没m yn gwasanaethu fel Ymgynghorydd Adnoddau Naturiol yng nghenhadaeth Mecsico Asiantaeth yr Unol Daleithiau dros Ddatblygu Rhyngwladol yn Ninas Mecsico. Er mai swydd rheoli rhaglen oedd hon yn bennaf, rhoddodd gyfle gwych i mi gydreoli rhaglen pum mlynedd Newid Hinsawdd USAID ym Mecsico. Roedd y rhaglen werth chweil hon yn cefnogi ymdrechion y llywodraethau ffederal a gwladwriaethol i liniaru newid hinsawdd yn y wlad, yn ogystal 芒 chefnogi gweithgareddau maes gyda'r nod o leihau datgoedwigo a diraddio coedwigoedd (REDD) yn Ne Mecsico. Yn anffodus, daeth y rhaglen i ben yn nechrau 2017 pan ddaeth gweinyddiaeth gyntaf Trump i rym.
Ers canol 2022 rwyf wedi bod yn gweithio gyda chwmni Verra fel Rheolwr arloesedd technegol REDD. Verra, gyda'i Safon Carbon Dilysu, yw'r safon sy'n arwain y byd yn y farchnad garbon wirfoddol. Yn y blynyddoedd hynny rhwng swyddi, gwnes waith ymgynghorol llawrydd ar gyfer amrywiol sefydliadau rhyngwladol gan gynnwys asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig (e.e. UNEP, UNDP, Is-adran Ystadegau'r Cenhedloedd Unedig), yr InterAmerican Development Bank, ac eraill. Yn ffodus ddigon, mae busnes cyfieithu Mar铆a Elena yn fach ond bellach wedi鈥檌 sefydlu鈥檔 gadarn ac wedi ein helpu yn ystod yn fy nghyfnodau rhwng swyddi a鈥檙 amrywioldeb incwm/ansicrwydd y mae gwaith ymgynghorol annibynnol yn ei olygu.
Eleni rydym yn dathlu ein penblwydd priodas yn 40 oed ac mae hefyd yn 40 mlynedd ers i ni deithio i Fangor i gychwyn y cwrs MSc Ecoleg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Fel rhan o'n dathliadau pen-blwydd, rydym yn bwriadu mynd yn 么l i Fangor yn yr hydref. Mae鈥檙 ddau ohonom yn cadw Coleg Prifysgol Gogledd Cymru a鈥檔 harhosiad ym Mangor yn uchel iawn yn ein hatgofion bywyd gan eu bod yn allweddol i鈥檔 gyrfaoedd, datblygiad proffesiynol, ac yn ddi-os hefyd i鈥檔 bywydau personol a theuluol. Ni allwn ddiolch digon i鈥檙 Cyngor Prydeinig am eu cefnogaeth hael a roddodd y fath gyfle i ni a newidiodd ein bywydau mor gynnar yn ein gyrfaoedd a鈥檔 bywydau.鈥