Jess Howard Seicoleg
ARBENIGWR MARCHNATA BYD-EANG, CARPENTER TECHNOLOGY
"Roeddwn wrth fy modd ym Mangor, ond mae un profiad yn sefyll allan fel un gwirioneddol drawsnewidiol: cymryd rhan yn y modiwl Born to Run."
Blwyddyn gradddio: 2017
Eich swydd bresenol:ÌýArbenigwr Marchnata Byd-eang, Carpenter Technology
Sut mae seicoleg yn rhan o'ch swydd?
Mae seicoleg yn chwarae rhan arwyddocaol yn fy ngwaith fel arbenigwr marchnata byd-eang, gan fod deall ymddygiad defnyddwyr, gwahaniaethau diwylliannol a ffactorau seicolegol yn hanfodol i greu strategaethau marchnata effeithiol. Yn fy ngwaith, rwy'n dadansoddi ymddygiad defnyddwyr er mwyn deall beth sy'n ysgogi unigolion i wneud penderfyniadau prynu. Mae hyn yn cynnwys astudio ffactorau seicolegol megis anghenion, dyheadau, agweddau a chanfyddiadau. Mae dealltwriaeth o seicoleg yn fy helpu i fod yn fwy hyblyg yn fy agwedd wrth lunio strategaethau marchnata i’n timau a’n llwyfannau twf. Rwy’n gallu addasu strategaethau yn seiliedig ar dueddiadau newidiol defnyddwyr, amodau economaidd a newidiadau diwylliannol. Mae fy nghefndir mewn seicoleg yn fy helpu i greu negeseuon brand, delweddau a phrofiadau sy'n ennyn emosiynau cadarnhaol ac yn creu hunaniaeth brand cryf.
Ìý
Sut mae seicoleg wedi eich helpu i gyrraedd yma?
Mae seicoleg wedi bod yn allweddol yn fy ngyrfa. Mae'r sgiliau meddwl beirniadol a'r meddylfryd dadansoddol a ddysgais yn ystod fy ngradd seicoleg wedi bod yn hynod ddefnyddiol i ddeall ymddygiad defnyddwyr. Galluogodd y sylfaen hon i mi drosglwyddo'n syth i fyd marchnata, lle rwy'n defnyddio fy nealltwriaeth o ffactorau seicolegol i lunio strategaethau marchnata llwyddiannus. Mae fy ngallu i ddadansoddi a dehongli data, ynghyd â deall ymddygiad pobl, wedi fy ngrymuso i wneud penderfyniadau gwybodus yn fy ngwaith pob dydd.Ìý
Ìý
Pa swyddi eraill ydych wedi gweithio ynddynt ar hyd y ffordd?
Rwyf wedi bod gyda fy nghwmni ers i mi raddio gyda fy ngradd meistr, gan ddechrau fel cynorthwyydd cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Dros amser, rwyf wedi symud ymlaen o fewn y sefydliad. Ar ôl i’r cwmni gael ei brynu gan gwmni Americanaidd, trosglwyddais i'r tîm marchnata canolog yn Philadelphia, UDA. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi ennill profiad ac arbenigedd defnyddiol, ac ar hyn o bryd, rwy'n goruchwylio'r strategaeth farchnata, presenoldeb cynadledda, marchnata digidol a chynhyrchu cynnwys i amryw o farchnadoedd a llwyfannau twf.
Beth oedd yr agwedd fwyaf defnyddiol o astudio seicoleg ym Mangor?Ìý
Roeddwn wrth fy modd ym Mangor, ond mae un profiad yn sefyll allan fel un gwirioneddol drawsnewidiol: cymryd rhan yn y modiwl Born to Run. Rhoddodd y modiwl hwn adnoddau heb eu hail i mi ym maes seicoleg gadarnhaol ac ysgogol, a defnyddiais yr adnoddau hyn i wireddu fy uchelgais o redeg marathon. Ysgogodd y modiwl y gred ddiwyro ynof y gallwn, gyda'r meddylfryd a'r ymroddiad cywir, gyflawni unrhyw beth yr oeddwn yn dymuno ei wneud. Mae fy niolch yn fawr i’r darlithwyr eithriadol, Fran a John, a bu eu harweiniad a’u cefnogaeth yn allweddol drwyddo draw. Ers hynny, rwyf wedi cwblhau wyth marathon ar draws y byd. Eto i gyd, y tu hwnt i'r rasys eu hunain, mae'r profiad wedi sbarduno twf personol dwys sydd wedi dylanwadu ar lwybr fy mywyd. Heb os nac oni bai, mae llawer o'm llwyddiant a'm cyflawniad presennol wedi dod yn sgil y gwersi a ddysgwyd yn y modiwl hwnnw.
Ìý
Unrhyw gyngor i rhywun sy'n ystyried Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor?
Gwnewch yn fawr o’r daith, oherwydd daw’r gallu i drawsnewid wrth geisio gwybodaeth. Nid taith academaidd yn unig oedd fy nghyfnod yn astudio seicoleg ym Mangor ond taith bersonol ddwys. Dysgodd y modiwl Born to Run i mi y gallwn, gyda'r meddylfryd cywir, dyfalbarhad ac ychydig o seicoleg gadarnhaol, redeg marathonau a gorchfygu heriau bywyd. Wrth i chi fynd lawr eich llwybr academaidd, cofiwch fod gan bob modiwl y potensial i ddylanwadu nid yn unig ar eich gyrfa ond arnoch chi fel unigolyn.Ìý
Ìý