“Graddiais o Brifysgol Bangor gyda BA mewn Ffrangeg ac Astudiaethau Busnes ar ôl trosglwyddo o brifysgol fwy. Rwy’n cofio pa mor gyfeillgar oedd Prifysgol Bangor yn teimlo cyn gynted ag y cyrhaeddais ac yn dal i feddwl yn annwyl am y Brifysgol a’m hamser yno.
Rhoddodd Bangor lawer o gyfleoedd i mi, ac un o’r uchafbwyntiau oedd cael fy newis i fynd ar gwrs entrepreneuriaeth preswyl yn yr Unol Daleithiau a oedd yn brofiad bythgofiadwy, ac yn ddi-os mi gryfhaodd fy awydd a’m hyder i ddechrau fy musnes fy hun.
Ar ôl graddio gyda gradd Dosbarth Cyntaf yn 2009, bûm yn gweithio mewn masnach ryngwladol am rai blynyddoedd cyn sefydlu asiantaeth gyfieithu. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, es ymlaen i fod yn gyd-sylfaenydd y cwmni anrhegion ar-lein, . Ar ôl gweld bwlch yn y farchnad am anrhegion moethus ar-lein y gellid eu postio'n gyfleus drwy'r blwch llythyrau, ganwyd Letterbox Gifts. Aeth y cwmni o nerth i nerth ac mae bellach yn un o’r cwmnïau anrhegion ar-lein mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig.
Rydyn ni'n dosbarthu anrhegion ar draws y byd ond mae ein swyddfa a'n gweithdai wedi'u lleoli yn Sheffield, a dyna lle rydw i'n byw gyda fy ngŵr, Michael a'n dau blentyn, Annabelle a Ted. Rydyn ni wedi bod ag Annabelle i Fangor yn fabi, ond yn edrych ymlaen at fynd â'r ddau i ymweld rhywbryd. Mae gan Michael hefyd lawer o atgofion melys gan ei fod yn arfer ymweld â mi yno'n rheolaidd ac roedd fy rhieni wrth eu boddau cymaint â Bangor, nes eu bod yn dal i fynd yno bob blwyddyn!â€