Manylion
 Yr Athro Oliver Turnbull
 Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol
ÌýÌý+44 (0)1248 383670
 Prifysgol Bangor
Yr Athro Oliver Turnbull yw Dirprwy'r Is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddo gyfrifoldeb dros strategaeth gyffredinol y brifysgol a rheoli'r broses gynllunio academaidd. Ef hefyd yw arweinydd y Strategaeth Academaidd, y Strategaeth Ryngwladoli, a'r Strategaethau Ystadau, Digidol a Chynaliadwyedd.
Fel academydd, mae'r Athro Turnbull yn niwroseicolegydd gyda diddordeb mewn emosiwn a'i ganlyniadau niferus i fywyd meddyliol. Mae ei ddiddordebau'n cynnwys: dysgu ar sail emosiwn, a'r profiad y byddwn yn ei ddisgrifio fel 'greddf'; swyddogaeth emosiwn mewn credoau ffals, yn arbennig mewn cleifion niwrolegol; a niwrowyddoniaeth seicotherapi. Mae’n awdur nifer o erthyglau gwyddonol ar y pynciau hyn, ynghyd â'r llyfr gwyddoniaeth poblogaidd 'The Brain and the Inner World'. Mae'n parhau i fod yn ymchwilydd a darlithydd gweithredol ac ef yw arweinydd ysgol haf Visceral Mind y brifysgol, lle mae'n arbenigo mewn dysgu niwroanatomi, yn enwedig trwy luniadau anatomegol a dyrannu ymennydd.