¶º±ÆÖ±²¥

Fy ngwlad:
Tri myfyriwr busnes yn gweithio mewn grwpiau yng ngofod dysgu cymdeithasol Pontio

Busnes a Rheolaeth

Bydd astudio Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi craffter cryf i chi o ran busnes a gwybodaeth am brosesau ac arferion rheoli. Mae’r cyrsiau’n rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr hybu eu cyflogadwyedd ac rydym yn frwd iawn dros ddysgu arweinwyr y dyfodol. Yn ddiweddar, cawsom dros 90% ym moddhad y myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2024 ym maes pwnc Astudiaethau Rheolaeth.

Ar y dudalen hon:
Opsiynau o fewn busnes a rheolaeth
Gwnewch gais cyn 6yh ar Ddydd Mercher, 29 Ionawr 2025 i gychwyn eich cwrs ym Medi 2025

Pam astudio yn Ysgol Busnes Bangor?

Mae'r byd yn newid mewn ffyrdd na ellir eu rhagweld.

Gall fod yn anodd i bobl ddeall sut i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Yn Ysgol Busnes Bangor, rydym yn credu gallwch ysgogi newid cadarnhaol ar draws y byd gyda’r addysg a’r sgiliau cywir.

Rydym yn hyderus o hyn, oherwydd mae ein staff ymchwil a'n graddedigion yn gwneud argraff lle bynnag y maent yn mynd.

Cymryd heriau busnes y byd go iawn i’w dwylo eu hunain.

P’un a yw hynny’n defnyddio dadansoddeg data i roi hwb i effeithlonrwydd y stryd fawr yn lleol, datblygu polisïau cynaliadwy cadarn ar gyfer y diwydiant twristiaeth, ymchwilio i'r berthynas rhwng brandiau a sbwriel, er enghraifft, dadansoddi ymddygiad defnyddwyr, a helpu pobl i wneud penderfyniadau sy’n well i’w hiechyd a’r amgylchedd.

Dyma'r lle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae hefyd yn lle hardd i wneud hynny.

Ysgol Busnes Bangor yw lle mae traddodiad yn cwrdd ag arloesi.

Gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf fel ein terfynellau Bloomberg dim ond taith fer o’r Ddarllenfa Shankland.

Nid damwain yw twf a datblygiad yr Ysgol Busnes.

Rydyn ni'n un o'r darparwyr addysgu bancio a chyllid hynaf yn y byd.

Mae ein ffocws ar gyflogadwyedd a sgiliau'r dyfodol yn allweddol.

Rydym yn gweithio amrywiaeth o fusnesau ac elusennau, yn lleol yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig, ac ar draws y byd.

Gwella ansawdd a chwmpas ein hymchwil, ond hefyd darparu addysg ragorol trwy teithiau maes a dysgu am arbenigedd amrywiol diwydiannau.

Darparu'r sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau mewn gwirionedd.

Mae Ysgol Busnes Bangor yn fwy na lle i astudio,Ìýmae'n le i arweinwyr y dyfodol cael eu ffurfio,Ìýlle mae arloesedd yn ffynnu,Ìýa lle ymdrinnir yn uniongyrchol â heriau byd-eang.

Ni yw'r ysgol sy'n golygu busnes,Ìýa hoffem chi ymuno â ni i gyd-lunio’r dyfodol.

Cwrdd â'n Myfyrwyr

Mae Lowri yn astudio Cyfrifeg a Chyllid gyda ni yn yr Ysgol Busnes dyma ei phrofiad hyd at hyn.

0:01 Enw fi ydi Lowri a dwi o Ynys Môn a dwi'n astudio yn Ysgol Busnes Bangor.

0.04 Mae'r profiad wedi bod yn rili da a dwi'n teimlo fel mae'r coleg yn lle rili neis i astudio yma.

0.10 Dwi wedi dysgu sut i wneud lot o statments gwahanol a sut i ddeall yr information i gyd sy'n dod mewn hefo nhw.

0.15 Mae o'n rili neis ac mae'r lle yn gefnogol iawn so mae o'n lle lyfli i ddysgu yma.

0.20 Mae o rili wedi helpu yn barod gyda interviews ar gyfer jobs ar ôl gadel.

0.24 Do mae lecturers a personal tutors fi wedi rhoi gymaint o gymorth i mi yn barod

0.29 yn helpu gydag ar ôl gadel Prifysgol a gwybod lle i fynd ar gyfer gwaith.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Busnes, Marchnata a Rheolaeth.Ìý

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Busnes, Marchnata a Rheolaeth llwyddiannus ym Mangor?Ìý
  • Beth allai wneud i baratoi at astudioÌýBusnes, Marchnata a Rheolaeth ym Mangor?Ìý
  • Sut ydw i yn gwybod mai Busnes, Marchnata a Rheolaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý

Georgia Stanmore a Bangor Business School student.

Blog Profiad gwaith Georgia

Treuliais flwyddyn mewn diwydiant fel intern Gwerthiant Masnachol yn VMware. Mae'r cwmni’n un o frandiau mwyaf blaenllaw’r diwydiant technoleg ac mae'n arbenigo mewn cyfrifiadura a rhithwiroli. Nid wyf yn un sy’n frwd ofnadwy dros dechnoleg ond bu llawer o’r teulu’n dilyn gyrfaoedd ym maes Gwerthu ac mae gen i brofiad yn y maes hefyd, ac felly mi oedd hi’n briodol imi wneud cais am rôl fel hon. Penderfynais i weithio yn y diwydiant hwnnw oherwydd mai mewn gwerthiant y mae’r arian mawr! Roedd VMware yn un o nifer fawr o gwmnïau technoleg y gwnes i gais iddynt ond rwy’n hapus iawn yma.

Cyfleusterau Ysgol Busnes Bangor

Uchod mae llawr fasnachu'r Ysgol Fusnes. Ynddi mae gennym derfynellau Bloomberg i fyfyrwyr ddefnyddio.

Graddio'r Gaeaf

Pob blwyddyn rydym yn gweld cannoedd o fyfyrwyr yn graddio o Ysgol Busnes Bangor yn ystod yr haf ar aeaf. Dyma gip olwg o'r seremoni raddio'r gaeaf.

Rydym yn hoffi cadw mewn cysylltiad â’n myfyrwyr ar ôl iddynt raddio felly dewch i ymuno â’n cymuned ar-lein o staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ar LinkedIn Ysgol Busnes Bangor.

Delyth Jones-Williams profile picture

Proffil Graddedigion Delyth Jones-Williams

Mae astudio ym Mangor wedi golygu fy mod yn gallu datblygu fy ngyrfa yn bellach, heb y radd doedd ddim posibilrwydd i mi ddatblygu fy ngyrfa yn bellach. Rwyf yn hyderus nawr bod yno lawer o gyfleoedd i mi yn y dyfodol.ÌýDros y 3 mlynedd diwethaf dwi wedi cael cyfnodau anodd ond erioed wedi teimlo fy mod ar ben fy hun, mha hynny yn beth braf iawn.

Ìý

Dr Sara Parry Darlithydd mewn Marchnata

Dewch i gwrdd â Dr Sara Parry Uwch Ddarlithydd Marchnata yma yn Ysgol Busnes Bangor. Enillodd Dr Parry ei PhD mewn Marchnata yma ym Mhrifysgol Bangor cyn ymuno â'n staff dysgu.Ìý

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.