A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Â
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Cerddoriaeth llwyddiannus ym Mangor?Â
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Cerddoriaeth ym Mangor?Â
- Sut ydw i yn gwybod mai Cerddoriaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Â
Ein Hymchwil o fewn Cerddoriaeth
Mae ein staff yn cynnal ymchwil ac yn darparu goruchwyliaeth ar gyfer PhD mewn Cerddoleg, Addysg Gerddorol,Cyfansoddi, Perfformio a Iechyd a Lles. Yn y meysydd bras hynny, mae gennym gryfderau allweddol o ran Cerddoriaeth Gynnar; Cerddoriaeth yr 20fed a’r 21ain Ganrif; Golygu Cerddoriaeth; Cerddoriaeth Cymru; Cyfansoddi Acwsmatig ac Electroacwstig; Cerddoriaeth Ffilm; Y Celfyddydau Sonig; Perfformio Cyfoes; Perfformiad Rhyngweithiol gydag Electroneg.
Mae'r rhan fwyaf o'r staff yn weithgar mewn mwy nag un maes ac yn aml maent yn ymwneud â phrojectau ymchwil gyda chydweithwyr sy'n gweithio mewn disgyblaethau eraill.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.