Pam Astudio Nanodechnoleg?
- Ni yw un o'r ychydig brifysgolion yn y Deyrnas Unedig sy'n cynnig cyfle ymarferol i gynhyrchu dyfeisiau mewn amgylchedd ystafell lân ac amser i ddefnyddio offer micro-beiriannu laser.Â
- Mae ein meysydd ymchwil yn ymdrin â phob agwedd ar nanodechnoleg, gan gynnwys dylunio, cynhyrchu a mesuriadau dyfeisiau. Mae'r adnoddau nanogynhyrchu sydd gennym yn yr ystafell lân ar gyfer nanogynhyrchu lled-ddargludyddion, ynghyd ag arbenigedd ein staff ym meysydd nanoffotoneg, nanoelectroneg a nanogynhyrchu'n cynnig cyfuniad unigryw o hyfforddiant theoretig ac ymarferol i baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y maes cyffrous hwn.
- Mae gennym hanes hir o arbenigedd mewn peirianneg electronig.
- Mae Peirianneg Electronig ym Mangor yn y 4ydd safle yn y Deyrnas Unedig am Allbynnau Ymchwil.
- Byddwch yn cael defnyddio cyfleusterau labordy o'r radd flaenaf. Mae gennym sawl labordy ymchwil uwch-dechnoleg.
- Mae yma gymuned ôl-radd brysur.
Cewch eich addysgu gan staff sy'n beirianwyr electronig profiadol sy'n cynnal cysylltiadau â diwydiant i sicrhau bod yr hyn y byddwch yn ei ddysgu yn gyfredol ac yn berthnasol i ddiwydiant.
Cyfleoedd Gyrfa o fewn Nanodechnoleg
Mae nanodechnoleg a microgynhyrchu'n cynnig cyfuniad effeithiol o wyddorau ffisegol, efelychu mathemategol a phrofiad ymarferol o ddefnyddio sgiliau microgynhyrchu a bydd yn paratoi myfyrwyr at amrywiaeth eang o opsiynau gyrfa, yn ogystal â chyfleoedd i astudio am ddoethuriaeth.
Bydd ar gwmnïau sy'n gweithio ym maes electroneg cyflymder uchel, ffotoneg integredig a biobeirianneg angen cyson am staff hynod gymwys ym maes nanodechnoleg a microgynhyrchu. Bydd rhai graddedigion yn dylunio'r fersiwn ddiweddaraf o sglodion telathrebu, tra bydd eraill yn datblygu sglodion ffotonig newydd ar gyfer ceir LIDAR a cheir hunan-yrru. Mae ar y maes biosynhwyro a biobeirianneg, yn benodol, angen cyson am arbenigedd sy'n rhychwantu'r meysydd sy'n cael eu crybwyll uchod.
Mae astudio nanodechnoleg yn gofyn am lawer iawn o offer ymchwil arbenigol, mae'r sgiliau hyn yn arbenigol iawn ac yn rhai mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae gennym hanes hir o arbenigedd mewn electroneg a ffotoneg ynghyd ag isadeiledd i'n galluogi i gyflwyno graddau mor arbenigol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.