Pam Astudio Seicoleg Glinigol?
Mae’r Rhaglen Ddoethurol dair-blynedd hon yn gynllun ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor. Mae'n cynnwys sawl nodwedd unigryw y mae ein myfyrwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr:
-
Mae'r adran Seicoleg ym Mangor yn adran fawr a chosmopolitan gyda staff a myfyrwyr o bob cwr o'r byd
-
Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil mwyaf diweddar, roedd 85% o'n hymchwil yn cael ei ystyried yn 'rhagorol yn rhyngwladol' neu 'gyda'r gorau yn y byd'.
-
Graddiodd dros 75% gyda gradd 1af neu 2:1 yn 2021
-
Sefydlwyd yr adran seicoleg ym Mangor ym 1963 gan ei gwneud ymhlith yr hynaf yn y DU
-
Mae gennym lawer o labordai ymchwil arbenigol, yn cynnwys sganiwr MRI, labordai TMS, cyfleusterau EEG a labordy anatomeg ymennydd dynol
Ìý
Cyfleoedd Gyrfa mewn Seicoleg Glinigol
Mae ein holl hyfforddeion hyd yma wedi llwyddo i gael gwaith fel Seicolegwyr Clinigol ar ôl cymhwyso o Raglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru. Mae grŵp mawr yn aros yng Ngogledd Cymru ac yn gweithio mewn gwasanaethau clinigol.Ìý Mae grŵp llai yn symud i ffwrdd, ond yn aml yn dychwelyd pan ddaw swyddi ar gael yng Ngogledd Cymru.Ìý Ar ôl cymhwyso, mae rhai hyfforddeion wedi mynd ymlaen i weithio yn y sector preifat a'r trydydd sector, neu wedi cymryd swyddi academaidd ac ymchwil.
Ein Hymchwil o fewn Seicoleg Glinigol
Mae ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg yn adlewyrchu dau ddull allweddol. Y dull cyntaf yw datblygu ac astudio ymyriadau i hyrwyddo llesiant, o blentyndod cynnar i oedran hÅ·n. Roedd ymyriad wrth wraidd agenda’r ysgol pan gafodd ei sefydlu fwy na 50 mlynedd yn ôl, ac mae’n parhau i fod yn ganolog i’n hunaniaeth ymchwil heddiw. Ein hail ddull allweddol yw niwrowyddoniaeth wybyddol, lle rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn staff ac adnoddau ymchwil arbenigol, i ymchwilio i ganfyddiad a gweithredu; iaith a datblygiad; a gwybyddiaeth gymdeithasol.Ìý
Darperir goruchwyliaeth ymchwil ar Raglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru gan dîm y rhaglen, seicolegwyr clinigol a chydweithwyr yn yr Ysgol Seicoleg.Ìý Yn ddiweddar cynhaliwyd ymchwil mewn sawl maes, gan gynnwys: ymlyniad mewn troseddwyr rhyw, tadolaeth mewn cymunedau difreintiedig, rhaglenni bwlio KiVa mewn ysgolion cynradd, gwasanaethau BDT mewn ID, strategaethau cymdeithasol mewn Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig, a sgiliau DBT mewn gwasanaethau cleifion mewnol. Am restr lawn o deitlau traethodau ymchwil, edrychwch arÌý.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.