¶º±ÆÖ±²¥

Fy ngwlad:
Myfyrwyr yn y llyfrgell

Archaeoleg

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Archaeoleg

Pam Astudio Archaeoleg ?

Nod ein rhaglenni ôl-raddedig yw meithrin dealltwriaeth fanwl a beirniadol o Archaeoleg.  Datblygir sgiliau ymarferol allweddol a'u mireinio gan ddefnyddio cofnod archeolegol cyfoethog Cymru fel ardal astudio. Cewch sgiliau trosglwyddadwy allweddol i fynd i mewn i ystod o alwedigaethau yn llwyddiannus neu barhau â'u gyrfa academaidd. Mae modiwlau'n cyfuno hyfforddiant mewn technegau ymchwil archeolegol a theori archeolegol â sylfaen wybodaeth gadarn. Yna rhoddir y sgiliau hyn ar waith wrth ymdrin â chofnod archeolegol cyfoethog y gorllewin Celtaidd. Fe’ch anogir i gymryd rhan mewn cloddiadau.  Mae amrywiaeth eang o bynciau ar gael i'w hastudio sy'n adlewyrchu archeoleg yr ardal - o dirweddau cynhanesyddol, ffiniau Rhufeinig ac aneddiadau Oes yr Haearn i safleoedd diwydiannol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Archaeoleg

Mae Archaeoleg yn cynnig gyrfa ddiddorol ac amrywiol sy'n rhoi boddhad deallusol. Mae gradd mewn Archaeoleg yn pontio sgiliau ymarferol a damcaniaethol, yn rhoi cyfle i ymarfer casglu a dadansoddi data, ac mae'n sylfaen dda ar gyfer gyrfaoedd eraill oherwydd ei bod yn cyfuno llythrennedd a rhifedd, y celfyddydau a'r gwyddorau. Felly, mae astudio Archaeoleg yn rhoi ystod eang o sgiliau a gwybodaeth y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, yn y sector Archaeoleg a Threftadaeth ac yn y farchnad swyddi ehangach. Myfyrwyr archeoleg yn aml yw'r gweithwyr mwyaf amryddawn a medrus, gyda sgiliau trosglwyddadwy rhagorol.

Ein Hymchwil o fewn Archaeoleg

Mae gennym arbenigedd ymchwil yn y meysydd canlynol: Archaeoleg Gynhanesyddol a Chanoloesol Prydain ac Iwerddon; Cynhanes Ewropeaidd; Archaeoleg Forwrol; Ffiniau Rhufeinig; Treftadaeth ac Archaeoleg Gyfoes.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.