¶º±ÆÖ±²¥

Fy ngwlad:
Penwisg cyfieithu ar fwrdd ystafell reoli

Astudiaethau Cyfieithu

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Astudiaethau Cyfieithu

Pam Astudio Astudiaethau Cyfieithu?

Rydym yn cynnig hyfforddiant proffesiynol rhagorol, a hefyd y cyfle i astudio mewn gwlad ddwyieithog sy'n cynnal diwylliant ymchwil dwys ac ysgogol mewn Astudiaethau Cyfieithu. 

Nod ein rhaglen MA Astudiaethau Cyfieithu yw eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd proffesiynol yn y diwydiant cyfieithu ac ymchwil academaidd uwch. Bydd yn darparu sylfaen ddamcaniaethol a methodolegol trwy fodiwlau mewn Astudiaethau Cyfieithu a Dulliau Ymchwil. Mae'r modiwlau dan arweiniad ymarfer yn rhoi cyfle i chi ymchwilio i wahanol agweddau ar y proffesiwn ac archwilio meysydd sydd o ddiddordeb personol.

Mae cysylltiadau clos rhwng ein rhaglen MA Astudiaethau Cyfieithu a'r diwydiant cyfieithu lleol a'r cymdeithasau proffesiynol. 

Mae ymchwil o'r radd flaenaf mewn astudiaethau cyfieithu yn sail i'n haddysgu.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Astudiaethau Cyfieithu

Cewch eich paratoi at amrywiol yrfaoedd fel cyfieithwyr mewn sefydliadau cyhoeddus, cwmnïau masnachol ac asiantaethau cyfieithu preifat. Mae astudiaeth ôl-radd yn y maes hwn hefyd yn baratoad rhagorol i yrfaoedd mewn meysydd eraill sy'n gofyn am sgiliau uwch o ran iaith a chyfathrebu fel marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, ysgrifennu technegol neu ddysgu ieithoedd.

Mae cyfle hefyd i barhau ym Mangor naill ai gydag ymarfer neu ddoethuriaeth ymchwil mewn Astudiaethau Cyfieithu.

Ein Hymchwil o fewn Astudiaethau Cyfieithu

Mae ein proffil rhyngwladol yn deillio o waith deinamig ein staff academaidd ac ymchwil, sydd wedi creu projectau o bwys yn unigol ac ar y cyd ag eraill ym meysydd hanes, diwylliannau a gwleidyddiaeth y byd Ffrengig,  Almaenaidd, Sbaenaidd ac Eidalaidd, gydag arbenigedd cynyddol mewn Astudiaethau Cyfieithu ac Astudiaethau Tsieineaidd.

Mae projectau ar y cyd ar draws y gwahanol feysydd iaith yn golygu bod gan yr ysgol ddiwylliant ymchwil bywiog a thraws-ddisgyblaethol sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at y cyrsiau ôl-radd. Mae gennym gryfderau arbennig ym meysydd ymdrin â diwylliannau Ffrangeg a Sbaeneg ôl-drefedigaethol, gwleidyddiaeth cofio a choffáu, llên teithio, Astudiaethau Catalanaidd a Galisaidd, troseddu trefnedig yn yr Eidal, cyfieithu, pŵer a disgwrs beirniadol, ffilm a hunaniaethau cenedlaethol, diwylliant poblogaidd a chomics, diwylliannau materol a thestunau materol, diwylliannau gweledol a chelf gyfoes.   Mae arbenigedd ymchwil traws-ddisgyblaethol yn arbennig o gryf ym meysydd astudiaethau cof, ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol,  astudiaethau teithio, astudiaethau diwylliannol trefol, trosglwyddo diwylliannol, a chyfieithu a newidiadau economaidd-wleidyddol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.