¶º±ÆÖ±²¥

Fy ngwlad:
Delwedd o'r ymennydd

Niwrowyddoniaeth

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Niwrowyddoniaeth

Pam Astudio Niwrowyddoniaeth?

Mae Niwrowyddoniaeth Fodern yn faes arbenigedd sy'n datblygu'n gyflym. Gan ddefnyddio technegau blaengar, mae ymchwilwyr Niwrowyddoniaeth yn archwilio gweithrediadau mewnol un o ffiniau olaf gwybodaeth ddynol - yr ymennydd dynol.

Mae gan Seicoleg ym Mangor sawl rhaglen ôl-raddedig sydd wedi'u cynllunio'n benodol i roi'r gallu i fyfyrwyr sydd eisiau ymuno â rhengoedd archwilwyr niwrowyddoniaeth blaenllaw heddiw i gychwyn ar eu taith. Gan weithio gydag aelodau angerddol cyfadran yr ysgol, sy'n ffigurau blaenllaw yn eu priod feysydd, byddwch yn agored i ddyfnder ac ehangder ymchwil niwrowyddoniaeth fodern, o dechnegau cymhwysol mewn niwroddelweddu, adferiad, a datgodio niwral i sail ddamcaniaethol a biolegol niwroseicoleg glinigol a datblygiadol.

  • Mae'r adran Seicoleg ym Mangor yn adran fawr a chosmopolitan gyda staff a myfyrwyr o bob cwr o'r byd
  • Sefydlwyd yr adran Seicoleg ym Mangor ym 1963 gan ei gwneud ymhlith yr hynaf yn y DU
  • Mae gennym lawer o labordai ymchwil arbenigol, yn cynnwys sganiwr MRI, labordai TMS, cyfleusterau EEG a labordy anatomeg ymennydd dynol

Cynlluniwyd ein cyrsiau nid yn unig i roi sylfaen gadarn i chi mewn damcaniaethau a gwybodaeth niwrowyddoniaeth fodern, ond hefyd y gallu i ddatblygu eich sgiliau ymarferol gyda phrofiad ymarferol yn y byd go iawn o dechnegau ymchwil blaengar. Mae'r graddau ôl-radd niwrowyddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor yn wirioneddol heb eu hail ac mae ein graddedigion yn gadael gyda'r sgiliau a'r wybodaeth i fod yn rhan o'r maes cyffrous hwnnw.

8fed

yn y DU am Foddhad Myfyrwyr

Complete University Guide 2024

8fed

yn y DU am Brofiad Myfyrwyr

Times Good University Guide 2023

14eg

yn y DU am Ansawdd Addysgu

Times Good University Guide 2023

25 Uchaf

yn y DU ar gyfer Seicoleg

Guardian Good University Guide 2023

2il

yng Nghymru am Seicoleg

Guardian Good University Guide 2023

Cyfleoedd Gyrfa mewn Niwrowyddoniaeth

Ar ôl graddio gyda gradd meistr mewn niwrowyddoniaeth mae yna amrywiaeth o opsiynau gyrfa ar gael ichi gan gynnwys:

  • Academia - ymchwil ac addysgu
  • Gwyddorau Clinigol/Meddygol
  • Gofal iechyd - seicolegydd cynorthwyol neu gynorthwyydd adferiad
  • Biotechnoleg ac ymchwil contract
  • Diwydiant fferyllol
  • Niwroseicoleg a seiciatreg
  • Niwro-ddelweddu
  • Materion rheoleiddio, gweinyddu polisi ac ymchwil
  • Trefniadaeth a gweinyddiaeth academaidd
  • Cyfathrebu ym maes gwyddoniaeth, gwaith amgueddfa ac ymwneud â'r cyhoedd
  • Addysgu

Mae'r sgiliau allweddol a addysgir ar lefel meistr hefyd yn ddeniadol i ystod o gyflogwyr y tu allan i feysydd sydd â chysylltiad uniongyrchol â niwrowyddoniaeth. Gyda gwybodaeth ddadansoddol ac ystadegol ôl-raddedig, ynghyd â sgiliau mewn cyflwyniadau llafar ac adroddiadau ysgrifenedig, byddech mewn sefyllfa arbennig o dda ar gyfer cyflogaeth sy'n gysylltiedig ag ymchwil mewn sefydliadau yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus.

Gallwch hefyd ddefnyddio gradd niwrowyddoniaeth fel paratoad ar gyfer astudiaeth PhD bellach neu raddau doethuriaeth broffesiynol eraill. Mae graddau doethuriaeth broffesiynol yn cynnwys seicoleg glinigol, seicoleg addysg, cwnsela a seicoleg.

Niwrowyddoniaeth - Datrys Dirgelion yr Ymennydd: Arweiniad gyrfaol i fyfyrwyr

Mae gan  daflen sy'n ymdrin â llwybrau gyrfaol i niwrowyddoniaeth a llwybrau gyrfa posib. Gallwch   o'u gwefan. 

Ein Hymchwil o fewn Niwrowyddoniaeth

Mae ein hymchwil yn adlewyrchu dau ddull allweddol. Y dull cyntaf yw datblygu ac astudio ymyriadau i hyrwyddo llesiant, o blentyndod cynnar i oedran hŷn. Roedd ymyriad wrth wraidd agenda’r ysgol pan gafodd ei sefydlu dros 50 mlynedd yn ôl, ac mae’n parhau i fod yn ganolog i’n hunaniaeth ymchwil heddiw. Ein hail ddull allweddol yw niwrowyddoniaeth wybyddol, lle rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn staff ac adnoddau ymchwil arbenigol, i ymchwilio i ganfyddiad a gweithredu; iaith a datblygiad; a gwybyddiaeth gymdeithasol. 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.