Ein Cenhadaeth
Cenhadaeth y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth yw darparu cyfraniadau defnyddiol at y sylfaen dystiolaeth i adnoddau ac ymyriadau, sy'n cefnogi ymyrraeth gynnar i blant a theuluoedd. Mae hyn yn galluogi gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg i wneud dewisiadau gwybodus am yr hyn sy'n gweithio, wrth helpu teuluoedd.
Rydym yn gweithio i hyrwyddo’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyrraeth gynnar gyda phlant/teuluoedd drwy ofyn y cwestiynau canlynol:
- Beth sydd yn gweithio?
- I bwy mae'n gweithio?
- Sut a pham mae'n gweithio?
Rydym yn cynnal ymchwil ar y cyd â sefydliadau partner sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda rhieni i wella profiadau plentyndod, gan gynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. Cyllidir yr ymchwil gan gyrff dyfarnu grantiau gan gynnwys NIHR, Sefydliad Nuffield, Horizon 2020, Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Gwybodaeth (KESS) a CEIT.
Rydym yn gweithio'n agos gydag elusen, y a'i is-gwmni hyfforddi, Early Intervention Wales Training (EIWT), i uwchsgilio gweithwyr proffesiynol drwy gyflwyno i ymyriadau gyda thystiolaeth o effeithiolrwydd.
Cyfryngau Cymdeithasol
Prifysgol Bangor, Bangor, LL57 2DG
Cysyllwch gyda ni
Canolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth