Mae rhoddion i'r Brifysgol gan ein cyn-fyfyrwyr trwy gyfrwng Cronfa Bangor yn helpu i sicrhau bod ein myfyrwyr yn elwa drwy gael addysg o’r safon orau, sydd wedi’i chefnogi gan gyfleusterau a gwasanaethau rhagorol. Mae rhoddion caredig gan ein cyn-fyfyrwyr yn galluogi’r Brifysgol i gynnig cyfleoedd gwerthfawr ac amrywiol, gan gyfoethogi a rhoi elfennau ychwanegol i’r profiad a gaiff ein myfyrwyr.
Yn ystod y rownd ddiwethaf o alldaliadau, dyfarnodd pwyllgor Cronfa Bangor grant o £7,140 i Glwb Deifio Tanddwr Prifysgol Bangor.
Dyrannwyd y grant ar gyfer prynu offer deifio hanfodol. Gyda'r arian, prynodd y clwb siwtiau sych o safon uchel gyda brand y clwb arnynt; dyfeisiau rheoli hynofedd mewn amrywiaeth o feintiau, ar gyfer hyfforddi yn y pwll a hyfforddi mewn dŵr agored; rheoleiddwyr ocsigen; a chyfrifiaduron deifio i wella gallu aelodau i fonitro eu proffiliau deifio a gwneud y gorau o gyfnodau deifio. Roeddent hefyd yn gallu prynu menig, cyflau a dillad thermol i’w gwisgo dan siwtiau sych, pwysau a gwregysau pwysau, esgidiau a bagiau malurion.
Mae buddsoddi yn yr offer hwn yn rhoi mwy o gyfle i aelodau’r clwb gymryd rhan mewn gweithgareddau deifio cyffredinol, gan wella diogelwch a gwneud eu profiad wrth ddeifio yn fwy cyfforddus a chaniatáu iddynt archwilio ystod ehangach o safleoedd ac amgylcheddau deifio, gan gynnwys safleoedd enwog megis Capenwray.
Mae effaith y grant ar y gamp yn gyffredinol hefyd wedi golygu fod yr aelodau bellach yn cael mwy o fwynhad wrth ddeifio yn eu amser hamdden. Mae deifio’n ffordd dda o leddfu straen ac ymlacio ac mae cael ymgolli yn harddwch a llonyddwch y byd tanddwr yn rhoi boddhad mawr. Mae gweithgareddau’r gymdeithas yn dod ag aelodau'n agosach at ei gilydd ac yn meithrin ymdeimlad o gyfeillgarwch trwy fod yn angerddol am yr un pethau a rhannu’r un profiadau.
Dywedodd Sophie Wilday, capten y gymdeithas, “Trwy ddarparu’r offer deifio angenrheidiol, mae’r grant wedi grymuso ein haelodau i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau deifio cyffredinol, gan sicrhau eu bod yn ddiogel, yn gyfforddus ac yn mwynhau. Nid yn unig y mae hyn wedi cyfoethogi eu profiadau deifio unigol ond mae hefyd wedi cryfhau gwead cyffredinol y clwb, gan hyrwyddo diwylliant o archwilio, dysgu a chydweithio. Rydym yn hynod ddiolchgar i gyn-fyfyrwyr Bangor am eu rhoddion ac i Bwyllgor Dyrannu Cronfa Bangor am y gefnogaeth, sydd wedi ein galluogi i wella’r cyfleoedd deifio cyffredinol i’n haelodau a chyfrannu at eu twf personol.â€