Academydd o Fangor yng Ngŵyl Lenyddiaeth Fwyaf Asia
Dychwelodd yr Athro Zoë Skoulding (Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau) yn ddiweddar o Kerala. Bu’n cynnal cyfres o berfformiadau barddoniaeth, sgyrsiau a gweithdai, a hynny yng Ngŵyl Lenyddiaeth Kerala yn gyntaf ac yna fel bardd preswyl gyda Sefydliad D C Kizhakemuri yn Vagamon (DCSMAT). Roedd ei hymweliad yn rhan o Broject Eco-farddoniaeth Y Deyrnas Unedig-India a gydlynwyd gan Llenyddiaeth Dros Ffiniau. Cafodd ei ariannu’n rhannol gan TAITH, y cynllun newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer symudedd ymchwil mewn Addysg Uwch.
Caiff y project yn ei gyfanrwydd, sy’n cynnwys y ddeuawd gydweithredol, montenegrofisher o’r Deyrnas Unedig-Chile, y bardd-gyfieithydd o’r Alban-Mecsico, Juana Adcock, y bardd o Kerala, Anita Thampi a’r Cymro, Iestyn Tyne, ei gynnal yn y cnawd ac yn rhithwir hyd at fis Mawrth. Mae'n cynhyrchu barddoniaeth, cyfieithiadau a pherfformiadau cydweithredol newydd ynglŷn â materion amgylcheddol, yn ogystal â pherfformiadau, gweithdai creadigol a sgyrsiau gyda myfyrwyr mewn sefydliadau Addysg Uwch yn India.
Dywed Zoë, “Roedd yn gyfle gwych i gysylltu â diwylliant unigryw Kerala, ac i gwrdd â beirdd sy’n ysgrifennu ym Malayalameg. KLF yw gŵyl lenyddol fwyaf Asia ac mae’n ddigwyddiad pwysig i amrywiaeth ddiwylliannol yn India, ac felly roedd yn anrhydedd cael cyfrannu ati. Wrth i’r project fynd rhagddo, edrychwn ymlaen at ddatblygu deialogau hirdymor gydag awduron, academyddion, artistiaid a myfyrwyr sydd â diddordeb mewn sut y gall barddoniaeth ymateb i heriau ecolegol. Mae digwyddiadau pellach ar y gweill fel rhan o Gymru yn India 2024.â€