Mae pobl sy’n byw mewn dinasoedd yn adrodd am fwy o effeithiau yn deillio o newid yn yr hinsawdd na phoblogaethau gwledig iawn yn y Deyrnas Unedig, a gallai hyn fod yn gyfrifol am y lefel uwch o bryder ynglŷn â’r newid yn yr hinsawdd a fynegir gan drigolion dinasoedd na chan bobl sy’n disgrifio eu lleoliad fel lle ‘gwledig iawn’, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn (6.9.23).
Er eu bod wedi datgan mwy o ymlyniad wrth y lle maent yn byw ynddo, roedd pobl yn byw mewn ardaloedd gwledig iawn yn poeni llai am newid yn yr hinsawdd.
Dyma oedd canfyddiadau annisgwyl arolwg cyflym o'r Deyrnas Unedig, am ymlyniad pobl drefol a gwledig wrth y lle maent yn byw ynddo a'u teimlad o fod dan fygythiad o’r newid yn yr hinsawdd.
Mae'r ymchwil, sy'n cyfuno ieithyddiaeth â gwyddorau cymdeithas ac amgylcheddol, yn rhoi rhywbeth i lunwyr polisi gnoi cil arno.
Mae'r Athro Thora Tenbrink o Brifysgol Bangor, a arweiniodd yr ymchwil, yn awgrymu bod tri rheswm posib a allai egluro’r canfyddiadau.
“Mae’n bosib bod gan bobl sy’n byw mewn dinasoedd fwy o brofiad uniongyrchol o’r newid yn yr hinsawdd, o ran y gwres a gynhyrchir mewn amgylcheddau trefol, neu’r llifogydd sy’n gwaethygu wrth i’r seilwaith peirianyddol gael ei lethu gan ddŵr ffo mewn lle gyda llawer o adeiladau a heb lawer o ddraeniad naturiol. Mae byw mewn lleoliadau gwledig iawn yn golygu bod pobl yn aml yn cael eu diogelu rhag effeithiau gwaethaf newid yn yr hinsawdd, gan fod dolydd, gwlypdiroedd a gorlifdiroedd yn dal i liniaru glaw trwm, ac nid yw tonnau gwres mor ddifrifol â thonnau gwres mewn lle gyda llawer o adeiladau.â€
Meddai’r cydawdur, yr Athro Simon Willcock o Rothamsted Research a Phrifysgol Bangor: “Ffactor arall posib yw bod pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig iawn yn fwy gwydn ac felly’n tan-adrodd unrhyw newidiadau yn yr hinsawdd maent yn cael profiad ohonyn nhw. Efallai eu bod yn fwy cyfarwydd â gorfod newid yr hyn maen nhw’n ei wneud er mwyn wynebu heriau newydd, ac efallai mai dim ond un her newydd arall yw newid yn yr hinsawdd iddyn nhw.â€
Y trydydd rheswm posib y mae’r awduron yn ei awgrymu yw bod poblogaethau gwledig yn tueddu i fod yn fwy ceidwadol eu hagwedd a gallai hyn effeithio ar y ffordd maent yn dehongli effeithiau newid yn yr hinsawdd.
I gloi, dywed yr ymchwilwyr y gallai’r ffaith bod newid yn yr hinsawdd yn cael ei ystyried yn llai o fygythiad gan bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig iawn fod â goblygiadau polisi, yn enwedig o ystyried sut gall newidiadau i ddefnydd tir a dulliau ffermio gwledig fod yn dyngedfennol yng nghyd-destun effeithiau newid yn yr hinsawdd a mesurau lliniaru. Mae'n bosib y bydd llunwyr polisi eisiau canolbwyntio'r ymgysylltu'n benodol ar yr ardaloedd mwyaf gwledig lle nad yw bygythiadau newid yn yr hinsawdd wedi cyrraedd ymwybyddiaeth pobl o bosib, er bod ganddynt fwy o ymlyniad wrth le.
The Conversation
Darllenwch erthygl helaethach gan Thora Tenbrink ar T.