¶º±ÆÖ±²¥

Fy ngwlad:
Colourful patchwork of faces

Cynghrair newydd ar gyfer ymchwil yn y celfyddydau a dyniaethau yng Nghymru

Mae Prifysgol Bangor yn rhan o bartneriaeth newydd rhwng y naw prifysgol yng Nghymru sydd yn ysgogi cydweithio ac yn hybu ymchwil ac arloesi ym maes y celfyddydau a'r dyniaethau yng Nghymru.

Ìý

Mae’r cydweithrediad yma’n cynnig cyfle cyffrous i arddangos y cyfoeth o ymchwil ac arloesi yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau ledled Cymru. Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn arbennig o gyffrous am y posibilrwydd o gydweithio mewn modd arloesol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau – o athroniaeth a chrefydd i droseddeg, ac o archaeoleg a threftadaeth i iaith, i enwi dim ond rhai – ac i ddyfnhau ein dealltwriaeth o gymdeithasau a diwylliannau, a chael effaith wirioneddol ar fywydau pobl.

Ìý

Yr Athro Enlli Thomas,  Pennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor

Mae aelodau CCDC yn cynnwys PC y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Wrecsam, Y Brifysgol Agored yng Nghymru.