Gyda grant ymchwil tair blynedd o £1m gan Gyngor Ymchwil y Deyrnas Unedig (UKRI), bydd tîm rhyngddisgyblaethol o dan arweiniad Dr Christopher Shank o Brifysgol Bangor, yn gweithio efo’r Cymunedau yng Nghymru sy’n defnyddio Iaith Arwyddo Prydain i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Ers pum mlynedd, bu’r ieithydd, Dr Christopher Shank yn gweithio efo tîm rhyngddisgyblaethol, sy’n cael ei arwain ar y cyd gan aelodau’r Gymuned Fyddar, i ymchwilio a nodi’r ffactorau sy’n effeithio ar iechyd, llesiant a mynediad y gymuned sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru at wybodaeth iechyd, gwasanaethau ac adnoddau.
Yn y project newydd, bydd y cyfranogwyr, gan gynnwys aelodau’r gymuned Fyddar, eto’n allweddol o ran cyd-adeiladu, cyd-ddylunio, gweithredu a chloriannu atebion i’r anghydraddoldebau a’r annhegwch mewn iechyd sy’n wynebu pobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru.
Esbonia Dr Shank:
“Dychmygwch wynebu anawsterau iechyd, a gorfod wynebu rhwystrau ychwanegol oherwydd nad oes apwyntiad gofal iechyd na gwybodaeth gefndir ar gael yn eich iaith chi.Â
Yn anffodus ymhlith y problemau gwirioneddol sy’n wynebu’r Byddar mae cyfieithu ar y pryd anghyson, cyfathrebu gwael mewn gofal iechyd a all arwain at ddiffyg o ran diagnosis a thriniaeth, a methu â chael mynediad at asedau diwylliannol a naturiol oherwydd nad yw deunyddiau ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain. Mae hefyd yn ffaith fod pobl Fyddar ar risg uwch o ddiffygion yn y diagnosis a thriniaeth i afiechydon cronig, mae ganddynt duedd i iechyd gwael, ac maent ddwywaith yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl na’r boblogaeth gyffredinol.
Nod y gwaith sy’n cael ei ariannu yw gwella gwasanaethau gofal iechyd drwyddi draw, drwy gydweithio efo’r Byddar, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y byrddau iechyd a darparwyr gwasanaethau eraill. Yn ogystal â’r gwasanaethau gofal iechyd, byddwn hefyd yn datblygu nifer o declynnau, megis apiau fideos tywys sy’n cynnig mynediad at safleoedd treftadol a geiriadur ac adnoddau ar-lein i helpu cyfieithwyr ar y pryd a darparwyr y gwasanaethau. Y gobaith yw y bydd y rheini’n fodd i leddfu problemau iechyd meddwl.â€
Dywedodd Martin Griffiths cyd-ymchwilydd ar y project gyda Chymdeithas y Byddar Cymru,
“Mae iechyd yn dal yn un o golofnau allweddol ein strategaeth dros ddeng mlynedd ‘Taking BSL Forward’ - ac mae’r Gymuned Fyddar yn ein hatgoffa’n barhaus am yr anghydraddoldebau iechyd y maent yn eu hwynebu o hyd yn 2024. Os nad yw hyn yn cael sylw, bydd Pobl Fyddar yn dal i wynebu’r risg o farw cyn pryd a salwch neu boen hirdymor a diangen. Dyma pam ein bod yn cefnogi’r ymchwil yma ac yn falch i gael bod yn rhan o broject Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.â€Â
Dywedodd Dr Sara Rhys-Jones, Seicolegydd Clinigol annibynnol, sy’n gyd-ymchwilydd ar y project:
“O’i gymharu â’r boblogaeth sy’n clywed, mae Pobl Fyddar yn fwy tebygol o lawer o brofi problemau iechyd ac o leiaf ddwywaith yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl. Y rhesymau pennaf dros hynny yw diffyg mynediad at wybodaeth am iechyd, ac anallu staff proffesiynol gofal iechyd i gyfathrebu’n uniongyrchol efo Pobl Fyddar. Mae angen cynnwys y Gymuned Fyddar i ddatblygu atebion ac mae’r project yma’n gyfle i wneud hynnyâ€
Dywedodd Ceri Harris, Pennaeth Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a chyd-ymchwilydd,
“Am yn hir, nid oedd gennym y data angenrheidiol i adnabod ac ymateb i anghenion iechyd y Gymuned Fyddar a rhai sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae’n faes ymchwil na chafodd adnoddau priodol. Felly rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o’r project. Byddwn, fel gwasanaeth iechyd, yn medru adnabod ac adeiladu gwasanaethau mwy cynhwysol a nodi’r anghenion. Mae potensial mawr i ganlyniadau’r project ar gyfer cymunedau Byddar a defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, ac yn wir, y tu hwnt.â€Â
Dywedodd Paul Redfern, Cadeirydd, Grŵp Iechyd Meddwl Byddar Cymru Gyfan a chyd- ymchwilydd y project,
“Nid proses statig yw iechyd meddwl. Mae llawer yn dibynnu ar sut mae’r gwasanaethau’n ymateb i geisiadau pobol am gymorth. Ffurfiwyd Grŵp Iechyd Meddwl Byddar Cymru Gyfan oherwydd yn draddodiadol, tydi gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ddim wedi cydnabod gofynion ieithyddol a chyfathrebu cleientiaid sy’n defnyddio Iaith Arwyddo Prydain, ac felly, ni fuont yn gefnogol i geisiadau am gymorth, triniaeth a gofal gan aelodau’r Gymuned Fyddar. Byddai gwasanaethau da yng Nghymru’n galluogi Pobl Fyddar i dderbyn y cymorth angenrheidiol a’u galluogi i fod yn iach gartref ac yn eu cymunedau. Yn anffodus, tydi hynny ddim yn digwydd, sy’n esbonio pam mae’r project yma mor bwysig.â€ÌýÌýÂ
Mae grant Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yn un o raglen o grantiau sy’n ceisio mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd di-syfl a hirsefydlog ymysg cymunedau tlotaf Prydain, ac archwilio sut y gall systemau iechyd gydweithio’n well gyda’r cymunedau.Â
Dywedodd James Sanderson, Cyfarwyddwr Iechyd Cymunedol a Gofal Personol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr:
“Gwyddom fod cydlynu gofal yn arwain at ganlyniadau gwell i bobol. Pan fo partneriaid lleol yn cydweithio, boed yn y Gwasanaeth Iechyd, y cynghorau, y sector gwirfoddol ac eraill, gallant greu gwell gwasanaethau sydd wedi’u seilio ar anghenion lleol ac sy’n berthnasol i’r gymuned leol. Gall harneisio asedau cymunedol, canfod cyfleoedd i gydgysylltu, gweithgareddau a phwrpas i gefnogi pobol i gyflawni canlyniadau da mewn iechyd a llesiant.â€
Mae partneriaid y project yn cynnwys unigolion sy’n clywed ac sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain o Brifysgolion Bangor ac Abertawe a Phrifysgol Gorllewin Lloegr (University of West of England), Prifysgol Graz Awstria, Cymdeithas y Byddar Prydain (British Deaf Association), Iechyd Cyhoeddus Cymru Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Centre of Sign Sight Sound ym Mae Colwyn, Cyngor Cymru ar gyfer Pobl Fyddar (Wales Council for Deaf People),  yn ogystal ag arbenigwyr yn y gyfraith, iechyd meddwl y Byddar ac iechyd a lles y Byddar.
Mae’r rhaglen hefyd yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Creadigol (National Centre for Creative Health).
Mwy o wybodaeth:
- Dr Christopher Shank:Â deafhealth@bangor.ac.ukÌýÌýpress@bangor.ac.uk
- Iechyd a Lles Pobl Fyddar yng Nghymru