Cynhadledd CELT 2023: Gwella ein Haddysg
Daeth dros ddau gant o gydweithwyr academaidd a gwasanaethau proffesiynol at ei gilydd ar gyfer Cynhadledd CELT 2023: Gwella ein Haddysg yn Pontio'r ar 11 Hydref 2023.
Dechreuodd y gynhadledd gyda thri gweithdy yn rhedeg ochr yn ochr gan Wasanaethau Digidol, Sam Jackson-Royle (Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Derbyniadau Rhyngwladol) a’r Dirprwy Is-ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr) Yr Athro Nicky Callow a’r Athro Caroline Bowman (Rheolwr Gwobrau a Chydnabyddiaeth).
Llifodd y sesiynau i mewn i weithdy aml-leoliad gan Dr Aled Singleton o Brifysgol Abertawe. Roedd y gweithdy aml-leoliad yn edrych ar leoliadau dysgu ac addysgu’r Brifysgol a sut, fel staff, fedrwn ni sicrhau rhagor o gysylltiad i’r campws a’r Brifysgol trwy’r ffordd yr ydym ni’n rhyngweithio gyda’n myfyrwyr a’n gofodau. Roedd y sesiwn yma mor boblogaidd fel iddi gael ei hail-adrodd ar ddiwedd y dydd!
Edrychodd y Dirprwy Is-ganghellor Oliver Turnbull dros ddeng mlynedd o waith gan CELT.
Canolbwynt y gynhadledd oedd cyflwyniadau gan staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol o’r Brifysgol ar dair thema benodol:
• addysgu sy'n seiliedig ar ymchwil
• arferion cynhwysol
• gwerthuso effaith addysgu
Cynigiodd Nida Ambreen a Rob Samuel o Undeb Bangor gipolwg gwerthfawr ar safbwyntiau ac ystyriaethau myfyrwyr ar gyfer cyfoethogi addysgu a dysgu.
Daeth y gynhadledd i ben gyda phrif gyflwyniad dadlennol gan yr Athro Cyswllt Sue Beckingham o Brifysgol Sheffield Hallam ar sut mae Deallusrwydd Artiffisial yn siapio dysgu ac addysgu mewn Addysg Uwch.
Roedd gweithdy’r Gwasanaethau Digidol yn ategu’r prif gyflwyniad yn dda iawn, wrth i gydweithwyr Blackboard arddangos yr offeryn cynorthwyydd deallusrwydd artiffisial newydd ar gyfer hyfforddwyr (darlithwyr), sy’n helpu i greu delweddau, cwisiau a chyfarwyddiadau marcio yn seiliedig ar gynnwys y cwrs. Enillodd Eryl Jones o Ganolfan Bedwyr y cwis Blackboard Learn Ultra - llongyfarchiadau Eryl!
Dywedodd yr Athro Nicky Callow, “Hoffwn ddiolch i bawb fynychodd, gymerodd ran neu cyfrannodd at lwyddiant y gynhadledd lenni. Edrychaf ymlaen at weld y gefnogaeth sy’n cael ei ddarparu yn cael ei gwella ymhellach yn 2023/2024, gan gynnwys ailgyflwyno ein gweithdai datblygiad proffesiynol parhaus i staff - rhagor o wybodaeth i ddilyn yn fuan.
“Wrth i ni ddechrau blwyddyn academaidd newydd, bu’r gynhadledd hon yn fodd i’n hatgoffa ni i gyd o’r arbenigedd, ymrwymiad ac egni sydd gennym ym Mangor i wella ansawdd ein haddysg a’n profiad myfyrwyr ymhellach.â€