Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr rhan-amser sy'n cyflwyno ymyriadau llythrennedd i blant a phobl ifanc ag anawsterau datblygu eu sgiliau llythrennedd. Bydd gan ymgeiswyr yr opsiwn o ddysgu ar-lein neu'n bersonol ym Mangor trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
I bwy mae’r cwrs yma i?
Bydd y cwrs hwn o fudd i athrawon, tiwtoriaid, staff cymorth addysgu a chynorthwywyr, therapyddion lleferydd ac iaith, a'r rhai sy'n gweithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu wahaniaethau dysgu. Mae angen 2 flynedd o brofiad blaenorol mewn addysg neu weithio gyda phlant cyn y cwrs.
Pam astudio’r cwrs yma?
Mae'n cynnig i ymgeiswyr ddod yn arbenigwyr achrededig mewn cyflwyno ymyriadau llythrennedd i blant a phobl ifanc ag anawsterau datblygu eu sgiliau llythrennedd a'r rhai â dyslecsia. Bydd ymgeiswyr yn gallu nodi'r anawsterau a wynebir gan blentyn neu berson ifanc o ran darllen, sillafu, a llawysgrifen, a llunio rhaglenni ymyrraeth addas. Byddant yn gallu adnabod anawsterau llythrennedd a darparu ymyrraeth trwy gyfrwng y Gymraeg a/neu Saesneg.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd y dysgwr yn gallu cyflwyno ymyriadau llythrennedd wedi'u targedu i blant a phobl ifanc â Statws Ymarferydd Achrededig neu Statws Athro Achrededig gyda Chymdeithas Dyslecsia Prydain. Dyma’r unig gwrs yn y DU sy’n canolbwyntio ar gefnogi dysgwyr ag Anawsterau Dysgu Penodol yng Nghymru ac mae’n caniatáu ar gyfer gwaith ymyrraeth Cymraeg a Saesneg gyda disgyblion.
Gwybodaeth am aseiniadau:
Bydd asesiad o’r cwrs yn cynnwys:
- 20 awr o addysgu ymarferol gyda disgybl. Bydd hyn yn cael ei asesu gan ddwy wers 60 munud wedi'u recordio.
- Astudiaeth achos yn seiliedig ar y disgybl yn derbyn yr ymyriad.
- Portffolio dysgu yn seiliedig ar yr ymarfer addysgu.
Tiwtoriaid
Jo Dunton
Cyfarwyddwr Addysgu Canolfan Dyslecsia Miles
Fel Aelod Cyswllt o Gymdeithas Dyslecsia Prydain mae hi'n athrawes ac asesydd arbenigol sydd wedi ei hachredu gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain. Mae ei gyrfa addysgu wedi rhychwantu amryw o oedrannau gan gynnwys gweithio mewn ysgolion arbennig a cholegau Addysg Bellach. Ymunodd â thîm addysgu Canolfan Dyslecsia Miles ar ôl cwblhau'r cwrs i fod yn Aelod Cyswllt o Gymdeithas Dyslecsia Prydain ym Mangor, ac aeth ymlaen wedyn i fod yn Gyfarwyddwr Addysgu'r Ganolfan. Mae ar hyn o bryd yn aelod gweithredol o Fwrdd Achredu Cymdeithas Dyslecsia Prydain.
Ruth Elliott
Arweinydd DPP Canolfan Dyslecsia Miles
Athrawes ac asesydd arbenigol i ddisgyblion ac oedolion ag anawsterau llythrennedd. Mae hi'n athrawes gymwysedig ac mae’n Aelod Cyswllt o Gymdeithas Dyslecsia Prydain. Ar hyn o bryd hi yw arweinydd datblygiad proffesiynol parhaus . Mae hi hefyd yn creu cynnwys ac yn hyfforddi fel rhan o’r project .
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r cwrs ymarferol hwn yn cynnwys mwy na 40 awr o ddarlithoedd, seminarau, ac amser i ofyn cwestiynau i arbenigwyr yn y maes.
Wrth ddilyn y cwrs bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo ag ymagweddau ac egwyddorion sylfaenol addysgu dysgwyr â Gwahaniaeth Dysgu Penodol (dyslecsia) a phobl ag anawsterau llythrennedd.
Mae'r pynciau’n cynnwys:
- Damcaniaethau am ddyslecsia a'r achosion sylfaenol
- Anawsterau sy'n cyd-ddigwydd gyda dyslecsia
- Anawsterau sy’n gysylltiedig ag iaith a dysgu, hunan-barch, a mathemateg.
- Dwyieithrwydd a dysgu ail iaith.
Bydd y cwrs yn galluogi'r ymgeiswyr i asesu gogyfer ag ymyriadau a nodi'r anawsterau a wynebir gan eu disgybl o ran darllen, sillafu a llawysgrifen. Byddant hefyd yn gallu llunio rhaglenni addas o ymyrraeth.
Disgwylir i ymgeiswyr fod ag ymagwedd feirniadol wrth ddewis deunyddiau ar gyfer addysgu ac asesu eu disgyblion.
Anogir dyfeisgarwch a gwreiddioldeb mewn perthynas â dulliau addysgu amlsynhwyraidd, yn enwedig o ran defnyddio gemau a deunyddiau synhwyraidd a gweledol i gynorthwyo dysgu pellach. Bydd gwerthuso ffurfiannol parhaus gan y myfyrwyr yn dangos sut mae eu gwaith wedi datblygu dros y cyfnod addysgu.
Cost y Cwrs
£1,950 (pris yn ddilys ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25)
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr am Statws Ymarferydd Achrededig fodloni'r meini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs:
- TGAU gradd C neu gymhwyster lefel 2 cyfwerth mewn iaith neu lenyddiaeth Saesneg a/neu Gymraeg.
- Byddai cymwysterau Lefel 3 yn ddefnyddiol i gwrdd â gofynion academaidd y cwrs.
Dylai fod gan ymgeiswyr 2 flynedd o brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys.
I ddilyn y cwrs mae’n ofynnol bod gennych fynediad i weithio gyda phlentyn neu berson ifanc 6-16 oed a fyddai'n elwa o ymyriad llythrennedd yn eich gweithle neu sefydliad cysylltiedig.
Holwch os ydych yn ansicr a yw'r plentyn neu berson ifanc yn cwrdd â'r gofynion.
Gwneud Cais
Cofrestrwch eich diddordeb trwy gwblhau’r ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad yn fuan.