Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Diffinnir Cydymaith Meddyg fel rhywun sy'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol newydd sydd, er nad yw'n feddyg, yn gweithio i'r model meddygol, gyda'r agweddau, y sgiliau a'r sylfaen wybodaeth i ddarparu gofal a thriniaeth gyfannol o fewn y tîm meddygol cyffredinol a/neu'r tîm meddygaeth teulu o dan lefelau goruchwylio diffiniedig.
Er mwyn bod yn gymwys i sefyll yr arholiad Cydymaith Meddyg cenedlaethol, mae angen cwblhau Diploma ôl-radd 2 flynedd mewn Astudiaethau Cydymaith Meddyg yn llwyddiannus. Mae cyllid Bwrsariaeth GIG Llywodraeth Cymru ar gael i dalu am y ffioedd ac i roi rhywfaint o gefnogaeth ar gyfer costau byw.
Mae'r rhaglen Cydymaith Meddyg ym Mangor yn cynnwys rhaglen lleoliad integredig o ddysgu yn y gwaith a fydd yn darparu dysgu trwy brofiad blaengar mewn ystod o leoliadau clinigol fel y gall myfyrwyr gyrraedd y safonau gwybodaeth a dealltwriaeth mewn ymarfer clinigol, yn cynnwys strwythurau rheoleiddio, cymwyseddau proffesiynoldeb a chlinigol a ddisgwylir gan Gydymaith Meddyg.
Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu sut i nabod a rheoli cyflyrau meddygol cyffredin a chymhleth fel rhan o dîm aml-broffesiynol, gwneud penderfyniadau annibynnol ar sail gwybodaeth am broblemau clinigol a chael eich hyfforddi i integreiddio gwybodaeth ac ymarfer clinigol.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Astudiaethau Cydymaith Meddyg.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Dylai fod gan ymgeiswyr:
- radd 2:1 neu uwch mewn pwnc gwyddor bywyd sy'n gysylltiedig â meddygaeth e.e. Gwyddorau Meddygol, Gwyddorau Biofeddygol, Seicoleg, Gwyddor Chwaraeon, Bioleg (yn enwedig Bioleg Dynol), Anatomeg.
- fod â gradd 2:2 mewn gradd gwyddor bywyd gyda gradd uwch (e.e. MSc) mewn pwnc perthnasol e.e. wyddorau Meddygol, Gwyddorau Biofeddygol, Seicoleg, Gwyddor Chwaraeon, Bioleg (yn enwedig Bioleg Dynol), Anatomeg.