Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r MMus hwn mewn Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau a'ch dealltwriaeth o arferion cyfoes mewn cyfansoddi cerddoriaeth a chelfyddyd sonig. Bydd y rhaglen yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i chi gyfansoddi mewn amrywiaeth o arddulliau cyfoes. Bydd astudio'r rhaglen meistr mewn Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau lefel uchel mewn maes cyfansoddi o'ch dewis. Byddwch yn dysgu gosod eich ymarfer artistig eich hun mewn cyd-destun creadigol a deallusol ehangach, a byddwch yn hogi sgiliau trosglwyddadwy lefel uchel mewn meddwl yn feirniadol, meddwl yn gysyniadol, datrys problemau, dadansoddi, cyfathrebu, hunangyfeirio, creadigrwydd a gwreiddioldeb.
Cynigir arbenigedd mewn amrywiaeth o genres, gan gynnwys ysgrifennu ar gyfer offerynnau a/neu leisiau, cyfansoddi electroacwstig ac acwsmatig, cyfansoddi ar gyfer cerddorion byw gydag electroneg, a chyfansoddi caneuon poblogaidd.
Byddwch yn gweithio'n glos â chyfansoddwyr proffesiynol ac ymchwilwyr profiadol arobryn, llawer ohonynt yn adnabyddus yn rhyngwladol. O astudio ym Mhrifysgol Bangor cewch fwynhau cysylltiadau clos â phartneriaid o’r diwydiant a’r trydydd sector megis Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Sinffonia Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Opra Cymru, Stiwdios Ffilm Aria, Canolfan Celfyddydau Pontio, Venue Cymru, Canolfan Celfyddydau Ucheldre, Canolfan Gerdd William Mathias, Cadeirlan Bangor, Gŵyl Gerdd Bangor, Gŵyl Ryngwladol Gogledd Cymru a Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru.
Hyd y Rhaglen
MMus: Blwyddyn yn llawn-amser, 2-5 mlynedd yn rhan-amser.
Diploma: 30 wythnos yn llawn-amser.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Bydd y cwricwlwm eang yn datblygu eich llais creadigol a byddwch yn meithrin eich gwybodaeth a’ch profiad trwy ymchwil pedagogaidd ac ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer.
- Rhaglen astudio hyblyg sy'n eich galluogi i archwilio’r meysydd sydd o ddiddordeb i chi mewn cyfansoddi a chelfyddyd sonig.
- Cwrs cyfoes sy’n mynd i’r afael ac yn hyrwyddo datblygiad sgiliau allweddol sy’n seiliedig ar ymarfer sy’n berthnasol i’r diwydiant cerddoriaeth heddiw.
- Hyfforddiant arbenigol gan academyddion ac ymarferwyr enwog ym meysydd cyfansoddi cerddoriaeth a chelfyddyd sonig.
- Cyfleusterau rhagorol gan gynnwys pedair stiwdio gerddoriaeth ddigidol, pob un yn gallu trin sain amgylchynol, i gynhyrchu a recordio cerddoriaeth, cyfansoddi cerddoriaeth ffilm a chelfyddyd sonig arbrofol.
Fy enw i ydi Dai Mito, ac rydw i’n astudio cyfansoddi a chelf sonig.
Rydw i wir wedi mwynhau gwneud llawer o gerddoriaeth, yn enwedig cerddoriaeth ffilm i ffilmiau mud.
Yn fy marn i, mae yna lawer o gyfleusterau da, fel ystafell biano a stiwdio
Mae yna lawer o lyfrau yn y llyfrgell. Mae'n gymorth mawr i fy astudiaethau.
Mae'n rhaid i mi wneud cerddoriaeth ac effeithiau sain penodol.
Mae'n gymorth mawr i wneud i fi feddwl.
Sut i wneud ffilmiau arbennig neu gemau fideo teledu.
Buaswn yn hoffi gweithio yn golygu, recordio, creu cerddoriaeth i’r Gorfforaeth Ddarlledu Japan, fel y BBC yn y Deyrnas Unedig
Dyma fy mreuddwyd fawr.
Ìý
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae dwy ran i’r rhaglen MMus mewn Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig: -
- Astudio Hyfforddedig (120 o gredydau) -
- Project Meistr (60 o gredydau)
Caiff elfen Astudio Hyfforddedig y cwrs ei dysgu dros ddau semester i fyfyrwyr llawn amser. Caiff y Project Meistr ei gyflawni dros yr haf. Addysgir drwy gyfuniad o hyfforddiant unigol a seminarau i grwpiau bach.
Bydd myfyrwyr sy'n dymuno dilyn y Diploma mewn Cerddoriaeth yn cwblhau elfen Astudio Hyfforddedig y cwrs yn unig. Ar gyfer yr MA Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig bydd angen i’r myfyrwyr gwblhau'r elfen Astudio Hyfforddedig a'r Project Meistr.
Astudio Hyfforddedig (120 o gredydau) (Diploma):
Ym mhob semester byddwch yn dilyny Project Cyfansoddi o dan oruchwyliaeth yn eich dewis arddull a chyfrwng, a fydd gyda'i gilydd yn ffurfio ffocws eich ymarfer cyfansoddi.
Semester 1
- Project Cyfansoddi 1 (20 o gredydau)
- Mae Cerddoriaeth a Syniadau (20 o gredydau) yn archwilio astudiaeth achos a ddewisir o blith opsiynau sy'n seiliedig ar arbenigeddau’r staff, ochr yn ochr â chyfres o seminarau ymchwil cyhoeddus a gyflwynir gan y staff a siaradwyr allanol.
- Mae Ymchwilio i Gerddoriaeth (20 o gredydau) yn dod â myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni cerddoleg, cyfansoddi a pherfformio ynghyd. Rydym yn archwilio amrywiol faterion cyfoes o'r safbwyntiau gwahanol a rhyng-gysylltiedig hyn.
Yn semester 2
- Project Cyfansoddi 2 (20 o gredydau)
- Mae Ymchwilio i Gerddoriaeth (20 o gredydau) yn eich paratoi i ymgymryd â phroject ymchwil yr haf. Rydym yn ymdrin ag agweddau megis methodolegau ymchwil, ysgrifennu cynigion, a rheoli eich project.
- Mae Cyfansoddi mewn Cyd-destun (20 o gredydau) yn eich galluogi i osod eich ymarfer eich hun yng nghyd-destun datblygiadau hanesyddol a chyfoes eich genre dewisol.
Project Meistr (60 o gredydau):
Mae’r Project Meistr, a gyflawnir dros fisoedd yr haf, fel arfer ar ffurf cyfansoddiad gwreiddiol sylweddol, neu bortffolio cydlynol o weithiau (30 munud), ynghyd â sylwebaeth gyd-destunol sy’n dogfennu eich ymarfer creadigol ac yn ei osod mewn cyd-destun ehangach (2,000 o eiriau).
Rhaid i fyfyrwyr sy'n dymuno gorffen y rhaglen radd gydag MMus Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig gwblhau'r Project Meistr yn llwyddiannus.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd gyntaf o safon 2.ii neu uwch (neu gymhwyster cyfwerth). Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr gyda gradd 2.ii feddu ar 2.i mewn project sylweddol (e.e. portffolio o gyfansoddiadau) yn y maes astudio o'u dewis. Gellir gofyn i ymgeiswyr gyflwyno samplau cynrychioliadol o'u gwaith creadigol (dau neu dri darn fel rheol). Gall y rhain fod yn sgorau mewn nodiant, neu recordiadau sain, neu'r ddau, a gellir eu hanfon ar bapur, DVD data, neu drwy we-gyswllt megis Dropbox.
Rhaid i'r ymgeiswyr hynny nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt basio'r prawf Saesneg IELTS gyda sgôr o 6.0 (heb yr un elfen yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Bydd yr MMus mewn Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig yn eich galluogi i ddatblygu llais gwreiddiol cryf mewn awyrgylch academaidd, ac mae'n baratoad delfrydol at waith creadigol pellach ar lefel PhD a thu hwnt. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi sgiliau i chi feddwl yn feirniadol, creadigrwydd a chyfathrebu a werthfawrogir gan gyflogwyr ym maes cerddoriaeth a thu hwnt. Mae graddedigion diweddar wedi dilyn gyrfaoedd llwyddiannus fel cyfansoddwyr proffesiynol, trefnwyr cerddoriaeth, cysodwyr cerddoriaeth, awduron, gweinyddwyr y celfyddydau, athrawon, ymgynghorwyr addysgol, perfformwyr a phobl fusnes.