Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cyflwynir y Radd-brentisiaeth Systemau Peirianneg Drydanol/Electronig Gymhwysol hon gan Brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai. Mae prentisiaethau gradd yn rhoi llwybr arall at addysg uwch draddodiadol - yn cyfuno gwaith gydag astudio yn y coleg a'r  brifysgol.Â
Nod y cwrs yw rhoi dealltwriaeth eang i'r myfyrwyr o beirianneg drydanol ac electronig ac egwyddorion busnes i'w cynorthwyo i ddod yn beirianwyr cymwys gyda'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer gyrfa broffesiynol yn y diwydiant peirianneg drydanol ac electronig. Mae'r rhaglen yn datblygu gwybodaeth benodol o egwyddorion peirianneg mewn theori drydanol/electronig a mecanyddol er mwyn eu defnyddio mewn sefyllfaoedd go iawn. Mae'n darparu sgiliau ymarferol mewn dylunio, profi, iechyd a diogelwch. Mae'n datblygu dulliau gweithredu mathemategol sy'n gysylltiedig â pheirianneg a theori, gyda hyn i’w weld gliriaf yn y flwyddyn olaf gyda Pheirianneg Pŵer a Systemau Rheoli.
Hyd
Fel rheol, bydd myfyrwyr yn astudio’n academaidd am un diwrnod ac un noson yr wythnos am dair blynedd.Â
Lleoliad
Am y ddwy flynedd gyntaf, fel rheol ymgymerir â'n rhaglenni prentisiaeth gradd ddigidol mewn colegau naill ai yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam neu Landrillo-yn-Rhos, a dysgir ein rhaglenni gradd-brentisiaethau peirianneg mewn colegau yn Llangefni neu Landrillo-yn-Rhos. Dysgir blwyddyn olaf y brentisiaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gradd-brentisiaeth Systemau Peirianneg Drydanol/Electronig Gymhwysol BEng (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Peirianneg
- Labordai cyfrifiadurol mawr gyda'r holl feddalwedd ddiweddaraf.Â
- Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu labordy technolegau trochi, lle mae'r dyfeisiau diweddaraf yn cael eu defnyddio at waith project ac ymchwil.
- Rydym wedi sefydlu labordy rhwydweithio mawr yn ddiweddar. Mae'r cyfleusterau wedi eu cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau ac i gefnogi’r gwaith o gyflwyno modiwlau am saernïaeth cyfrifiaduron.Â
- Mae gennym labordy addysgu israddedig enfawr lle byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol i gadarnhau'r wybodaeth rydych wedi ei dysgu yn eich darlithoedd.  Mae’n llawn o offer sydd o safon diwydiant.
- Mae gennym ystafell lân 1000 y bydd ein holl fyfyrwyr israddedig yn ei defnyddio yn ystod eu hastudiaethau.  Bydd hyn yn rhoi hyfforddiant unigryw i chi mewn protocolau ystafell lân sy'n brofiad defnyddiol iawn wrth chwilio am swydd ar ôl graddio.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Ariennir y Radd-brentisiaeth Gwyddor Data Gymhwysol hwn yn llawn, yn amodol ar gadarnhad gan HEFCW, sy'n cynnwys y ffioedd dysgu llawn, sef £27,000 (h.y., £9000 y flwyddyn fesul myfyriwr dros 3 blynedd).
Gall y ffioedd godi ym mlynyddoedd dilynol y cwrs yn unol ag unrhyw swm a bennir gan Lywodraeth Cymru.  Nid yw'r ffioedd dysgu yn cynnwys costau prynu llyfrau neu ddeunyddiau ysgrifennu, argraffu, rhwymo traethawd hir neu gostau llungopïo.
Nid oes unrhyw gostau ychwanegol gorfodol ynghlwm wrth y cwrs hwn.
Gofynion Mynediad
- Rhaid i'r prentisiaid fod naill ai mewn cyflogaeth lawn-amser neu ran-amser (o leiaf 16 awr yr wythnos) mewn cyflogaeth berthnasol.
- Caiff pob ymgeisydd ei ystyried fesul achos a bydd disgwyl iddynt ddod am gyfweliad anffurfiol.Â
Sut i wneud cais Â
Ar gyfer pob Gradd-brentisiaeth, gwnewch gais yn uniongyrchol gyda chymorth ein Nodiadau Canllaw.
Ar ôl i chi ddarllen y canllawiau, dylech wneud cais gan ddefnyddio'r .