¶º±ÆÖ±²¥

Fy ngwlad:
Eisteddfod design

Dydd Sadwrn 03.08

Ymunwch â Dr Rhian Hodges, Uwch Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, am sesiwn galw heibio. Cyfle am sgwrs anffurfiol am y radd, yr adnoddau sydd gan y Brifysgol i’w gynnig a gweld yr animeiddiadau ar sgrîn

Dydd Llun 05.08

Dyma sgwrs rhwng Dr Edward Jones (Busnes ac Economeg) a Dr Gareth Evans-Jones (Athroniaeth a Chrefydd) ynghylch dau leoliad ymddangosiadol gyferbyniol, sef tai potas (tafarndai) a thai Duw (capeli). Bydd y sesiwn yn archwilio’r hyn sy’n clymu Genesis a Guinness, y codi canu a’r canu bloesg, o feddwl am wreiddiau cymdeithasol tafarnau cymunedol a chapeli Anghydffurfiol.

Ymunwch efo ni i lansio’r rhaglen newydd ac arloesol TAR Anghenion Dysgu Ychwanegol Cynradd mewn digwyddiad panel a fydd yn cynnwys rhieni, disgyblion yn ogystal ag arbenigwyr ym maes ADY. Dowch draw i ymuno efo ni wrth i ni lansio’r rhaglen gyntaf o’r math yma yng Nghymru.

Ymunwch â Dr Edward Jones (Busnes a Economi) ar gyfer sesiwn sy’n edrych ar y twf mewn asedau sy’n cael eu datblygu gan y gymuned. Trafodaeth panel a fydd yn edrych ar y manteision o mentrau a arweinir gan y gymuned, y rhwystrau a’r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol

Dydd Mawrth 06.08

Ymunwch â Osian Gwynn (Cyfarwyddwr Celfyddydau Pontio) ar gyfer trafodaeth panel yn edrych ar cyfraniad diwylliant a’r celfyddydau i adfywio ein cymunedau gwledig. Bydd y panel yn trafod y sefyllfa presennol, y rhwystrau a’r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Trafodaeth banel a gynhelir gan Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru. Dan gadeiryddiaeth un o gyfarwyddwyr y Ganolfan, Dr Gareth Evans-Jones, bydd y panel yn ystyried yr agweddau ar ein cymdeithas sy’n dangos ein bod yn byw mewn oes oddefgar, ond hefyd yn ystyried yr agweddau anoddefgar. Gan ystyried elfennau megis crefydd, diwylliannau, rhywioldeb, a hunaniaethau ‘amgen’, bydd Sian Melangell Dafydd (Ysgrifennu Creadigol Saesneg, Prifysgol Bangor), Malachy Edwards, Kayley Roberts, a Dr Gareth Evans-Jones yn trafod y testun pwysig yma.

Ymunwch â gwasgnod Sebra wrth inni ddathlu cyhoeddi cyfrol o straeon byrion newydd sbon: Ar amrantiad. Yn dilyn cystadleuaeth stori fer a gynhaliwyd yn gynharach eleni, dewisodd Dr Gareth Evans-Jones y tair stori fuddugol ac maent wedi cael eu cynnwys mewn cyfrol ochr yn ochr â straeon gan awduron cyhoeddedig, gan gynnwys Jon Gower, Fflur Dafydd, Sian Melangell Dafydd (Ysgrifennu Creadigol Saesneg ym Mangor) a Gareth Evans-Jones. Mae’r gyfrol yn llawn gweithiau diddorol a lleisiau arbennig, a bydd hwn yn ddathliad gwirioneddol yng nghwmni amryw o’r cyfranwyr.

Dydd Mercher 07.08

Ymunwch a’r Athro Jason Walford Davies i edrych nol ar hanes Adran Y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Bangor, ac i ddathlu lansiad Yr Ysgol Gymraeg newydd.

I gyd-fynd gyda dathliadau 140 oed Prifysgol Bangor, dyma gyfle i ddysgu am y bobl hynny fu'n allweddol yn y gwaith o ddatblygu'r Coleg ar y Bryn.

Ymunwch â Dr Nia Jones a’r Athro Angharad Davies ar gyfer cyflwyniad yn crynhoi y sefyllfa presennol gyda’r Ysgol Feddygol a’r cyfleoedd sydd gennym i greu doctoriaid i Gymru.

Mae Aduniad Cyn-fyfyrwyr Bangor yn ei ôl, ac mae llawer i ddal i fyny arno. Cewch glywed am ddatblygiadau'r Brifysgol ers ein aduniad diwethaf yn yr Eisteddfod, a chwrdd â'r cyn-fyfyrwyr am luniaeth ysgafn.

Dydd Iau 08.08

Ymunwch â Dr Nia Jones a’r Athro Angharad Davies ar gyfer sesiwn Achub Bywyd Sylfaenol, yn rhoi cyngor a gwybodaeth ymarferol.

Cyflwyniad gan Lois Nash a Tracey Horton (Ysgol Hanes, Y Gyfraith, a Gwyddorau Cymdeithas) ar y Clinig Cyngor Cyfreithiol. Cyfle i ddysgu mwy am y clinig a sut mae’n berthnasol i chi.

Arddangosfeydd fer a thrafodaethau ynglÅ·n a Gwyddorau Morol a chadwraeth, o dan arweiniad Dr Martyn Kurr, Dr Dei Huws, Claire Carrington a Rhianna Parry (Ysgol Gwyddorau Eigion).

Dydd Gwener 09.08

Arddangosfeydd fer a thrafodaethau ynglÅ·n a Gwyddorau Morol a chadwraeth, o dan arweiniad Dr Martyn Kurr, Dr Dei Huws, Claire Carrington a Rhianna Parry (Ysgol Gwyddorau Eigion).

Cyfle i ddathlu bod neuadd Gymraeg Prifysgol Bangor, Neuadd JMJ yn 50 oed. Dowch i hel atgofion!

Meddwl dod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor? Astudio ym Mangor eisoes? Wel, dewch i ddathlu'r Eisteddfod yn ein digwyddiad! Gan gynnwys perfformiad gan Fand gwych Fleur de Lys... welwn ni chi yno!

140th Anniversary logo