Cynhadledd Archif Menywod Cymru 2024
Mae’n bleser gennym hyrwyddo Cynhadledd Flynyddol Archif Menywod Cymru, sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor eleni.
Rhannwch y dudalen hon
Mae Archif Menywod Cymru (AMC) wedi rhoi rhaglen gyffrous a diddorol o bapurau gan amrywiaeth o haneswyr profiadol a newydd at ei gilydd. Rydym yn falch iawn y bydd tri chynrychiolydd o Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn cyflwyno papurau:
- Lizzy Walker, 'Menywod yn berchen ar ac yn ddeiliaid tir yng ngogledd-ddwyrain Cymru: Tystiolaeth o brydlesoedd yr 17eg a'r 18fed ganrif', Papur 12.Ìý
Ìý - Dr Meinir Moncrieffe, ''Rhodd duw yw dynes radlon a gonest a does trysor cyffelyb iddi': Camdriniaeth mud Gwragedd y Bonedd Cymraeg', Papur 15.Ìý
Ìý - Dr Shaun Evans, 'Boneddigesau, Gweithgaredd Hynafiaethol ac Ymwybyddiaeth Hanesyddol Gymreig yn y 19eg Ganrif', Papur 16.Ìý
Bydd cyfle hefyd i glywed am brosiectau diweddaraf AMC - Merched a Chwaraeon a Chymru a Gosod y Record yn Syth (Cipio lleisiau merched yng ngwleidyddiaeth Cymru), a chyhoeddir enillydd Bwrsari Avril Rolph 2024.