Bydd iTrent yn caniatáu cofnodi nifer o ffurflenni tebyg i daflenni amser y gallech fod wedi eu defnyddio yn y gorffennol ynghyd â'r ffurflen hawlio costau teithio a chynhaliaeth (treuliau) safonol trwy ddewis hunanwasanaeth.
e.e.
- 5/7 Contractau
- Cytundeb oriau
- Hawlio costau (teithio a chynhaliaeth)
- Therapyddion iaith / therapyddion eraill
- Arall
- Staff diogelwch
- Darlithwyr PTL dim oriau
- Staff ar gontract dim oriau
Byddwch yn gallu olrhain cynnydd y ffurflenni hyn (gweld a awdurdodwyd/gwrthodwyd eich cais) a chael negeseuon e-bost drwy'r broses.
Byddwch hefyd yn archebu gwyliau blynyddol ac yn nodi absenoldebau eraill yn y porth hwn ynghyd â chael slipiau cyflog a gwybodaeth arall.
Bydd amserlen y gyflogres yr un fath yn y lle cyntaf ond rhagwelir y gallai hyn newid a byddwn yn rhoi gwybod i chi trwy ein tudalen Cyflogres (gweler yr adran ar amserlen y gyflogres).
Mae cymorth ac arweiniad ar y porth newydd ar gael hefyd.
- Hunanwasanaeth i aelodau staff
- Hunanwasanaeth i reolwyr
Gall tîm penodedig yn y Gwasanaethau Digidol ymdrin ag unrhyw broblemau neu gamgymeriadau a dylid cysylltu â hwy gydag UNRHYW broblemau’n ymwneud ag iTrent. Byddant yn cyfeirio’r broblem fel y bo'n briodol.
Cysylltwch â'n tîm cyflogres yn ôl yr arfer gydag unrhyw gwestiynau’n ymwneud â’r gyflogres.
Cynlluniau Teithio a Chynhaliaeth : Defnyddiwch ESS nawr.
Goramser a Thaflenni Amser : Cyn bo hir.
Dolen i ESS :Ìý