Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
Awst 2021 fel Arbenigwr Ymarferydd Gwyddor Gofal Iechyd. Chwefror 2023 fel Ymarferydd Genomig.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Mae'r Gwasanaeth Iechyd mor bwysig inni ac roeddwn i eisiau helpu a gwneud gwahaniaeth i ofal cleifion.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud.
Fel Ymarferydd Genomig, rwy'n cysylltu â chleifion ac yn rhoi caniatâd iddynt gael prawf genetig o'r enw Dilyniannu Genom Cyfan. Af drwy'r prawf efo nhw’n fanwl, y mathau o ganlyniadau y gallent eu cael, yn ogystal â goblygiadau’r profion. Rydym yn hwyluso profion gwaed i’r prawf ac yn eu cymryd ein hunain ar gyfer cleifion sy'n cael trafferth gwneud hynny yn rhywle arall. Rydym yn cysylltu’n agos â’r labordai i wneud yn siŵr bod ganddynt yr holl waith papur a samplau sydd eu hangen i fwrw ymlaen â’r profion.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Siarad â chleifion sydd â lefelau amrywiol o wybodaeth am eneteg. Mae'n hyfryd gallu esbonio pethau mewn ffordd maen nhw'n ei deall oherwydd mae geneteg yn gallu bod yn bwnc llosg!
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Ewch amdani. Mae yna foddhad mawr.
Sut byddech chi’n disgrifio’r Gwasanaeth Iechyd mewn gair?Â