Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2015.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Diogelwch swydd, a chydbwysedd gwaith da.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud.
Rwy'n gweithio mewn tîm bach o staff yn y swît cataractau, naill ai'n sgrybio i’r meddygon ar gyfer llawdriniaeth, mynd â’r cleifion i'r theatr, derbyn cleifion. Rwyf hefyd yn gwneud sganiau golwg ar gyfer apwyntiadau’r clinig opthalmoleg.Â
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Helpu cleifion gyda'u golwg a rhoi gwell ansawdd bywyd iddynt.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Ewch amdani, nid yw bob amser yn hawdd ond mae bob amser yn her a fyddwch chi byth ar eich pen eich hun, bydd rhywun i chi siarad â nhw bob amser.
Sut byddech chi’n disgrifio’r Gwasanaeth Iechyd mewn gair?Â