Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2019.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Cymysgiad o gariad at wyddoniaeth a thosturi at ofal cleifion.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud.
Rwy'n gweithio yn adran ficrobioleg Maelor Wrecsam. Yn ystod y pandemig bûm yn canolbwyntio'n bennaf ar brofion moleciwlaidd ar gyfer firoleg ond erbyn hyn mae'n gymysgedd o facterioleg i lwybrau sepsis a sgrinio firaol i gleifion mewnol a chleifion allanol.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Rwyf wrth fy modd â'r boddhad sydd i’r swydd o fentio a staenio meithriniadau gwaed gram, gan ddefnyddio microsgopeg a llwyfannau moleciwlaidd i ganfod organebau penodol.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Ewch amdani, nid yw'n hawdd ond mae llawer o foddhad i’r swydd a balchder gyda phob prawf.
Sut byddech chi’n disgrifio’r Gwasanaeth Iechyd mewn gair?Â