
Mae Gwobrau yn dathlu rhagoriaeth, arloesedd ac arweinyddiaeth ar draws y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru. Mae’r categori Gwobr Pro Bono yn cydnabod sefydliadau sy’n darparu cymorth cyfreithiol gwirfoddol eithriadol i unigolion a chymunedau mewn angen.
Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim i’r cyhoedd, gan roi cyfle i fyfyrwyr gael profiad ymarferol o’r gyfraith o dan oruchwyliaeth staff cymwysedig. Mae ei gynnwys ymhlith yr enillwyr terfynol yn adlewyrchu ei ffocws cryf ar y gymuned a’i ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus.
Bydd yr holl enillwyr terfynol yn symud ymlaen i’r cam nesaf: cyfweliadau wyneb yn wyneb gyda’r panel beirniadu yn ddiweddarach y mis hwn. Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddydd Iau, 5 Mehefin yn Ngwesty'r Marriott Caerdydd.