¶º±ÆÖ±²¥

Fy ngwlad:
Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Pam Astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol?

Mae cymaint o wahanol feysydd i chi ddewis ohonynt yn ein gradd Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel y gellwch ddewis meysydd sydd o ddiddordeb i chi yn benodol, neu sy'n berthnasol i'ch gwaith cyfredol neu'ch dyheadau gyrfa at y dyfodol. 

Mae awyrgylch dysgu cyfeillgar ac anffurfiol yma, lle dysgir y radd gan arbenigwyr yn y pwnc a'u nod yw bod yn arloesol a darparu at anghenion gwirioneddol. Mae fframwaith y cwrs yn hyblyg ac yn cynnig ystod o arbenigeddau ac amrywiaeth eang o ddewis sy'n eich galluogi i addasu eich gradd yn ôl eich anghenion a'ch diddordebau. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu gydag pwyslais ar ddatblygu sgiliau ymarferol mewn arsylwi, dehongli, prosesu gwybodaeth a chyflwyno. Mae hefyd cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Byddwch yn ymuno â thua 100 o fyfyrwyr eraill, fel y gallwn roi sylw unigol i chi. Mae maint dosbarthiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel rheol yn llai na 30, felly nid oes unrhyw un yn mynd ar goll yn y dorf. Cyflwynir y rhaglen trwy gymysgedd arloesol o strategaethau a dulliau dysgu ac addysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gwaith grŵp, a gwaith ysgrifennu adfyfyriol. 

Cyfleoedd Gyrfa mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhoi cefndir da ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd fel rheoli gwasanaethau iechyd, ymchwil, hybu iechyd a gwaith cymdeithasol a chymunedol.   

Mae rhai o'n graddedigion diweddar wedi cymryd swyddi gyda chynghorau lleol fel swyddogion tai; yn gweithio gyda theuluoedd bregus, neu ffoaduriaid. Mae graddedigion eraill wedi gweithio i elusennau; helpu'r digartref, neu rai â phroblemau iechyd meddwl neu gaethiwed i alcohol neu gyffuriau. Mae ein graddedigion hefyd wedi mynd ymlaen i astudio ymhellach mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol a throseddeg neu i hyfforddiant proffesiynol mewn meysydd fel nyrsio neu fydwreigiaeth.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch efo'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Roedd ein hymchwil ymysg y 20 uchaf (o 94) yn yr asesiad diweddaraf o ansawdd ymchwil gyda 95% o ymchwil naill ai'n rhagorol yn rhyngwladol neu gyda'r gorau yn y byd (REF 2014).
Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant BIHMR yn  i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, meddygol a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnal ymchwil o'r safon uchaf sy'n cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol, yn ogystal â chael effaith ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.