1. Gwneud Ffrindiau Cyn i Chi Gyrraedd
Mae'r ap Campus Connect yn caniatáu i chi sgwrsio gyda'ch cyd-letywyr cyn i chi symud yma. Mae hyn yn golygu y gallwch ddechrau gwneud ffrindiau cyn cyrraedd y Brifysgol, a gall hyn wneud y newid yn haws.
2. Dim Costau Cudd
Mae'ch holl filiau, fel Wi-Fi, chyfleustodau a chynllun yswiriant cynnwys ystafell, wedi'u cynnwys yn y rhent. Efallai fod cyllidebu yn newydd i lawer ohonoch, felly mae hyn yn golygu na fydd yna unrhyw gostau annisgwyl, sy’n eich galluogi i gynllunio'ch arian yn haws.
3. Llety o'r Ansawdd Gorau
Mae neuaddau Bangor yn cyrraedd y safonau uchaf ac yn cynnig cefnogaeth ac atgyweiriadau 24/7. Gallwch ganolbwyntio ar fywyd myfyriwr heb boeni am ddiogelwch neu ansawdd eich gofod byw, gan ei gwneud yn haws i setlo mewn.
4. Teimlo'n Ddiogel ac wedi'ch Cefnogi
Mae diogelwch 24/7, wardeiniaid a mentoriaid ar gael yn y ddau bentref myfyrwyr. Mae gwybod bod rhywun yno bob amser i helpu a rhoi cyngor yn rhoi tawelwch meddwl, yn enwedig pan ydych i ffwrdd o gartref am y tro cyntaf.
5. Aelodaeth Campws Byw
Mynediad am ddim i bob math o ddigwyddiadau cymdeithasol hwyliog, o nosweithiau pitsa i gystadlaethau carioci. Mae Campws Byw yn ffordd berffaith o gwrdd â phobl newydd a chael hwyl y tu allan i ddarlithoedd, gan ei gwneud yn haws i adeiladu cyfeillgarwch a setlo mewn i fywyd myfyriwr.
6. Byw gyda Ffrindiau
Gallwch archebu eich ystafell eich hun, felly gofynnwch i'ch ffrind archebu eu un nhw ar yr un pryd i sicrhau eich bod yn agos at ei gilydd. Os ydych yn nerfus am symud i ffwrdd o gartref, gall cael cysur ffrind yn agos wneud byd o wahaniaeth.
7. Llety sy'n Addas i Chi
Os rydych yn dymuno, cewch ddewis byw mewn neuaddau tawel, fflat di-alcohol neu ffalt i ferched yn unig. Mae gennych y rhyddid i ddewis llety sy'n cyd-fynd â'ch dewisiadau personol ac yn gwneud i chi deimlo'n gyfforddus, beth bynnag sydd yn gwneud i chi deimlo’n fwy cartrefol.
8. Aelodaeth AM DDIM i’r Gampfa
Mae pob myfyriwr yn y neuaddau yn cael mynediad am ddim i'r gampfa. Gallwch gadw’n ffit ac yn iach yn rhad ac am ddim ac mae ymarfer corff hefyd yn ffordd wych o leddfu straen yn ystod eich astudiaethau.
9. Hyblygrwydd
Os ydych yn anhapus yn eich ystafell neu neuadd bresennol, gallwch ofyn am symud. Gall symud i'r Brifysgol deimlo’n gam mawr, ac os nad yw pethau'n teimlo'n iawn, mae gennych yr hyblygrwydd i newid, gan sicrhau eich bod eich ystafell yn yr amgylchedd gorau posibl i chi.
10. Aros am Flwyddyn Arall
Gallwch archebu lle yn ein neuaddau cyfyngedig ar gyfer y rhai sy'n dychwelyd ar gyfer eich ail, trydydd, neu bedwaredd flwyddyn. Os ydych yn gwerthfawrogi'r cyfleustra a'r awyrgylch cymdeithasol, mae'n ffordd ddelfrydol o aros yn sefydlog a chanolbwyntio ar eich astudiaethau.
Ìý
Ìý